Bethan Picton - 23 Medi
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 23 Medi 2025, wedi canfod bod honiadau o ‘droseddau perthnasol’ wedi’u profi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Bethan Picton.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Miss Picton:
- ar 26 Medi 2023, wedi cael ei dyfarnu’n euog o’r canlynol:
- gyrru cerbyd modur ar 14 Ebrill 2023 gyda chyfran o gyffur B penodol a reolir (Benzoylecgonine) uwch na’r terfyn penodedig. O ganlyniad, anghymhwyswyd Miss Picton rhag gyrru am 12 mis a rhoddwyd dirwy o £250 iddi
- gyrru cerbyd modur ar 14 Ebrill 2023 gyda chyfran o gyffur penodol a reolir (Cocên) uwch na’r terfyn penodedig. O ganlyniad, anghymhwyswyd Miss Picton rhag gyrru am 12 mis
- Ar 20 Medi 2024, wedi cael ei dyfarnu’n euog o’r canlynol:
- meddu ar gyffur a reolir gyda bwriad o’i gyflenwi (Dosbarth A – LSD) rhwng 20 Medi 2022 a 28 Ebrill 2023. O ganlyniad, ar 18 Hydref 2024, dedfrydwyd Miss Picton i 3 blynedd o garchar (cydredol) a fforffedu a dinistrio’r arddangosion
- feddu ar gyffur a reolir (Dosbarth B – Canabis/resin Canabis) ar 27 Ebrill 2023. O ganlyniad, ar 18 Hydref 2024, dedfrydwyd Miss Picton i fforffedu a dinistrio’r arddangosion, dim cosb ar wahân
- ymwneud â chyflenwi cyffur a reolir (Dosbarth A – Arall) rhwng 18 Medi 2022 a 28 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref 2024 i fforffedu a dinistrio’r arddangosion a 3 blynedd o garchar (cydredol)
- feddu ar gyffuriau a reolir (Dosbarth A – MDMA) ar 27 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref i fforffedu a dinistrio’r arddangosion ac 1 mis o garchar (cydredol)
- ymwneud â chyflenwi cyffuriau a reolir (Dosbarth A – Cocên) rhwng 18 Medi 2022 a 28 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref 2024 i fforffedu a dinistrio’r arddangosion a 3 blynedd o garchar
- feddu ar gyffur a reolir (Dosbarth A – Cocên) ar 27 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref 2024 i fforffedu a dinistrio’r arddangosion ac 1 mis o garchar (cydredol)
- ymwneud â chyflenwi cyffur a reolir (Dosbarth B – Canabis) rhwng 18 Medi 2022 a 28 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref 2024 i fforffedu a dinistrio’r arddangosion a 9 mis o garchar (cydredol)
- feddu ar gyffur a reolir (Dosbarth A – LSD) ar 27 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref 2024 i fforffedu a dinistrio’r arddangosion ac 1 mis o garchar (cydredol)
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Miss Picton o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Miss Picton wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Miss Picton yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 23 Medi 2027, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Miss Picton hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



