10:30-12:00, 14 Hydref 2025
Mae'r briffiad yn dod yn sgil cyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2025.
Ymunwch â'n cyflwynwyr wrth iddyn nhw rannu trosolwg o ddata 2025, gan amlygu prif dueddiadau o'r 13 categori cofrestru, a dros 91,000 o gofrestreion. Am y tro cyntaf eleni, bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar ymarferwyr dysgu oedolion, a phenaethiaid neu uwch arweinwyr yn gweithio mewn addysg bellach.
Mae'r data yn dod o'n Cofrestr o Ymarferwyr Addysg, ac yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i gyfansoddiad y gweithlu addysg, fel oedran, ethnigrwydd, rhyw a chymwysterau.
Mae'r digwyddiad yma ar gyfer arweinwyr addysg, gwneuthurwyr polisi, ac uwch staff, a bydd yn helpu mynychwyr i ddeall yr ystadegau a chefnogi cynllunio'r gweithlu, strategaeth, a datblygu polisi yn y dyfodol.
Yn dilyn y prif gyflwyniad, bydd mynychwyr yn cael cyfle i holi cwestiynau ar y wybodaeth a gyflwynwyd.