Kerry Hall - 6 Chwefror 2025
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 4 i 6 Chwefror 2025, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athro ysgol, Kerry David HALL.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi fel Athro Ysgol yn Ysgol Bryn Castell, fod Mr Hall:
- ar neu oddeutu 13 Gorffennaf 2022:
- wedi gafael yn Nysgwr A wrth ei fraich/freichiau;
- wedi gwthio Dysgwr A yn ôl;
- wedi gwthio Dysgwr A yn erbyn wal;
- heb gymryd camau i ymbellhau oddi wrth y sefyllfa gyda Dysgwr A a/neu dawelu’r sefyllfa cyn y cysylltiad corfforol â Dysgwr A.
- trwy gyfrwng ei ymddygiad ym mharagraffau 1a, 1b ac 1c uchod, wedi defnyddio grym corfforol diangen a/neu ormodol.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Hall o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori athro ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Hall wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Hall yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 6 Chwefror 2027, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Hall hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.