Sophie Cahill – 28 Mai 2025
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 19 a 28 Mai 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi eu profi yn erbyn athro addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu, Sophie Cahill.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi:
- ar neu o gwmpas 6 Medi 2024, fe wnaeth Miss Cahill gyflwyno cais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel athro addysg bellach, a nododd yn y datganiad nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau, pan nad oedd hyn yn gywir
- ar 2 Tachwedd 2023, cafodd Miss Cahill euogfarn yn Llys yr Ynadon Casnewydd am y drosedd o fethu â darparu sampl i'w ddadansoddi (gyrru neu geisio gyrru) ar 1 Tachwedd 2023, drwy fynd yn erbyn adran 7(6) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. O'r herwydd cafodd Miss Cahill ddedfryd ar 17 Tachwedd 2023 o waharddiad gyrru o 14 mis, a dirwy o £200
- ar 17 Tachwedd 2023, cafodd Miss Cahill euogfarn yn Llys yr Ynadon Casnewydd am y drosedd o fethu â darparu sampl i'w ddadansoddi (gyrru neu geisio gyrru) ar 31 Hydref 2023, drwy fynd yn erbyn adran 7(6) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. O'r herwydd cafodd Miss Cahill ddedfryd o waharddiad gyrru o 14 mis, a dirwy o £200.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor benderfynu bod ymddygiad Miss Cahill yn dangos diffyg hygrededd o ran paragraff 1 uchod.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Cahill fel athro addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 28 Mai 2025 a 28 Mai 2027).
O'r herwydd bydd Miss Cahill yn gallu gweithio fel:
- athro addysg bellach, sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru
- gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru.
am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Cahill yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.