Dewiswch eich iaith
Os ydych wedi cael cais i adnewyddu eich cofrestriad gyda ni, gallwch wneud hynny mewn ychydig funudau. Talwch eich ffi nawr.
Os ydych chi’n cael eich cyflogi ar gontract yng Nghymru, bydd eich cyflogwr yn tynnu eich ffi gofrestru o’ch tâl mis Mawrth yn awtomatig.
Rydym yn ymgynghori ar ein Cynllun Strategol ar gyfer 2025-28 a'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol drafft. Gallwch roi adborth nawr.
Ymunwch â’n gweminar am ddim sydd ar ddod, lle byddwn yn dangos sut gallwch chi, gan ddefnyddio’r PDP fod yn fwy na man i gofnodi eich datblygiad proffesiynol. Gall hefyd fod yn declyn pwerus i ddangos eich sgiliau a'ch cyraeddiadau.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymrwymo i wneud y wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r datganiad hygyrchedd yn berthnasol i wefan CGA www.cga.cymru.
Mae'r wefan yn cael ei rhedeg gan CGA. Ry'n ni am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
Rydym wedi ychwanegu bar offer ReachDeck i'r wefan, sy'n gallu cael eu hagor drwy ddefnyddio'r eicon person du ar gefndir glas ar frig y dudalen.
Bydd bar offer ReachDeck yn eich helpu i ddarllen a chyfieithu cynnwys y wefan. Mae'r swyddogaethau yn cynnwys:
Os oes gyda chi anabledd mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei ddefnyddio.
Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel tesun plaen, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddarllen, neu recordiad sain, anfonwch e-bost at
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 15 diwrnod gwaith.
Mae'r wefan hon yn rhannol cydymffurfio gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio isod.
Mae'r materion canlynol wedi eu datrys lle bo modd, fodd bynnag, mae effeithir ar nifer cyfyngedig o dudalennau o hyd. Rydym yn edrych am ddatrysiadau i'r materion hyn lle gallwn.
Nid yw pob un o'r PDFs ar ein gwefan yn hygyrch achos:
Rydym yn gweithio ar hyn o bryd i ddisodli'r PDFs gyda thudalennau HTML lle bo modd. Bydd unrhyw PDFs nad ydynt yn gallu eu troi yn dudalennau HTML yn cael eu diweddaru i fodloni safonau hygyrchedd. Fodd bynnag, nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn ein bod yn trwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Os oes angen i chi gael gwybodaeth sydd yn un o'r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat gwahanol.
Paratowyd y datganiad yma ar 27 Ebrill 2023. Fe'i diweddarwyd ar 30 Medi 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 23 Medi 2024. Gwnaed y prawf yn fewnol.
Fe wnaethom ddefnyddio Sort Site i sganio ein tudalennau. Fe wnaeth y sgan gynnwys cyfuniad o dempledi craidd, templedi a ddefnyddir yn aml a thempledi cymhleth.
Fe wnaethom brofi ein platfform gwefan sydd yn https://www.cga.cymru.
Yn Hydref 2023, fe wnaeth Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU gynnal archwiliad o sampl cynrychioladol o'n tudalennau, lle nodwyd nifer o broblemau hygyrchedd cyffredin, a'u trwsio. Mae'r rheiny sydd heb eu trwsio eto wedi eu rhestri yn yr adran 'diffyg cydymffurfio' uchod.
Rydym o hyd yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestri ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydynt yn bodloni rheoliadau hygyrchedd, e-bostiwch
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os ydych chi'n anhapus gyda'r ffordd y byddwn yn ymateb i'ch ymholiad, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).
Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gydymffurfio â safonau newydd y Gymraeg.
Mae’r safonau hyn yn gosod disgwyliadau clir arnom i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg i’n cofrestreion, ein rhanddeiliaid a’r cyhoedd, a hyrwyddo’r defnydd ar y Gymraeg trwy ein holl wasanaethau.
Mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â 148 o safonau sy’n cwmpasu cyflenwi gwasanaethau, materion gweithredol, llunio polisïau a chadw cofnodion.
Darllenwch Safonau’r Gymraeg y mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â nhw .
Rydym yn sefydliad cwbl ddwyieithog ac rydym yn annog ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid eraill i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymwneud â ni, naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig. Mae sawl ffordd rydym yn gwneud hyn:
Rydym hefyd yn annog staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol:
Bob blwyddyn, rydym yn llunio adroddiad monitro blynyddol sy’n darparu gwybodaeth am ein cydymffurfiaeth â’r safonau, ac yn amlinellu sut y gwnaethom weithredu’r safonau.
Darllenwch ein hadroddiad monitro safonau’r Gymraeg ar gyfer 2022-23.
Rydym yn falch o fod yn sefydliad cwbl ddwyieithog sy’n hyrwyddo ac yn annog yr iaith Gymraeg, y tu hwnt i’n dyletswydd ddeddfwriaethol i gydymffurfio. Croesawn unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynglŷn â’n darpariaeth ddwyieithog, a’n hymagwedd at yr iaith Gymraeg.
Os na fyddwn yn darparu gwasanaeth Cymraeg, neu os ydych yn anfodlon ar safon y gwasanaeth Cymraeg a ddarparwn, gallwch gwyno i’r Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol trwy anfon neges e-bost at
Fel yr amlinellir yn ein Polisi Safonau Gwasanaeth, ceisiwn gydnabod derbyn y gŵyn gychwynnol o fewn pum niwrnod gwaith a rhoi ymateb llawn o fewn 20 niwrnod gwaith. Fodd bynnag, os disgwylir y bydd yn cymryd mwy o amser i ddatrys y mater, byddwn yn anfon ymateb dros dro.
Bydd yr holl gwynion yn cael eu cofnodi at ddibenion monitro ac adrodd. Cyflwynir adroddiad cryno i’r Uwch Dîm Rheoli bob mis sy’n cynnwys unrhyw gwynion neu bryderon yn ymwneud â’r gwasanaeth Cymraeg a ddarparwn.
Byddwn yn adrodd ar nifer y cwynion a dderbynnir bob blwyddyn yn ein hadroddiad monitro safonau’r Gymraeg, sy’n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan a’i fonitro gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Rydym yn sicrhau bod ein cyflogeion yn cael hyfforddiant priodol i’w helpu i drin cwynion yn effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant penodol ar y Gymraeg er mwyn sicrhau bod unrhyw bryderon a godir mewn cwyn yn derbyn sylw ac nad ydynt yn cael eu hailadrodd.
Os oes gennych gŵyn, fe’ch anogwn i gysylltu â ni yn y lle cyntaf. Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym wedi delio â’ch pryder, neu os credwch nad ydym wedi cymryd camau priodol i ddatrys y sefyllfa, dylech gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg i wneud cwyn.
Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg a Saesneg ar unrhyw bryd drwy anfon e-bost atom. Cyfeiriwch eich e-bost at y tîm mwyaf perthnasol, neu defnyddiwch y cyfeiriad cyffredinol isod.
Gallwch hefyd ein ffonio yn ystod oriau swyddfa. Byddwch yn gallu siarad gyda ni'n Gymraeg neu'n Saesneg.
Cyngor y Gweithlu Addysg
Llawr 9, Eastgate House
35-43 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0AB
Ffôn 029 2046 0099
Dydd Llun i ddydd Iau 09:00 hyd 17:00
Dydd Gwener 09:00 hyd 16:00
Cyffredinol
Y cyfryngau -
Cofrestru -
Datblygiad proffesiynol a chyllid -
Priodoldeb i ymarfer -
Achredu -
Addysgwyr Cymru –
Data’r gweithlu –
Ymchwil a pholisi –