CGA / EWC

About us banner
Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025
Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025

 Lawrlwytho Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer

1. Ynghylch CGA

Amdanom ni

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.

Fe’i sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ac mae’n ofyniad cyfreithiol i ymarferwyr ar draws tri ar ddeg o wahanol grwpiau yn y gweithlu addysg, o’r cyfnod sylfaen i addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu seiliedig ar waith, gofrestru gyda CGA. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yng Nghymru yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr fwyaf pellgyrhaeddol o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda dros 91,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru.

Ein nodau

  • Cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru.
  • Cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon, ac eraill sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.
  • Diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid a’r cyhoedd, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Ein swyddogaeth

  • Sefydlu a chynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg.
  • Cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
  • Ymchwilio i honiadau a all fwrw amheuaeth am briodoldeb ymarferydd cofrestredig i ymarfer, a gwrando ar yr honiadau hyn.
  • Achredu a monitro rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
  • Darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill.
  • Monitro sefydlu a gwrando ar apelau sefydlu.
  • Hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg.
  • Ymgymryd â gwaith penodol ar wahoddiad Llywodraeth Cymru. 

2. Y Gofrestr Ymarferwyr Addysg

Ar 31 Mawrth 2025, roedd 91,253 o ymarferwyr addysg unigol wedi’u cofrestru gyda CGA. Fodd bynnag, mae rhai cofrestreion wedi’u cofrestru mewn mwy nag un categori. Mae’r tabl isod yn dangos y nifer a oedd yn gymwys i weithio ym mhob categori ar 31 Mawrth 2025.

CategoriNifer y cofrestrwyr
Gweithiwr cymorth dysgu ysgol 45,887
Athro ysgol 35,266
Athro addysg bellach 6,588
Gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach 5,117
Ymarferwyr dysgu'n seiliedig ar waith 3,426
Gweithiwr cymorth sefydliad annibynnol arbennig ôl-16 2,921
Athrawon ysgol annibynnol 1,988
Gweithwyr cymorth ysgol annibynnol 1,378
Gweithiwr cymorth ieuenctid  699
Gweithiwr ieuenctid 468
Pennaeth neu uwch arweinydd 367
Ymarferydd addysg oedolion 97
Athro sefydliad annibynnol arbennig ôl-16 84


3. Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Mae pob cofrestrai newydd yn cael copi o’r Cod wrth gofrestru (19,058 o geisiadau newydd yn 2024/25) ac mae pob cyflogwr yn cael copïau â’r Cod bob blwyddyn i’w dosbarthu i’w cyflogeion cofrestredig. Yn ogystal, edrychwyd ar y Cod 13,278 o weithiau ar wefan CGA.

Mae ein cofrestreion yn ymrwymo i gynnal pum egwyddor allweddol cyfrifoldeb personol a phroffesiynol, unplygrwydd proffesiynol, cydweithio, gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol, a dysgu proffesiynol.

Bwriedir i’r Cod lywio barn a phenderfyniadau cofrestreion. Hefyd, mae’n rhoi gwybod i ddysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, cyflogwyr a’r cyhoedd am y safonau y gallant eu disgwyl gan gofrestrai.

Gallai methiant i gydymffurfio â’r Cod fwrw amheuaeth ynghylch cofrestriad ymarferydd.

Rydym yn cyflwyno sesiynau hyfforddi a chyflwyniadau rheolaidd sy’n canolbwyntio ar y Cod, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, a moeseg a chyfrifoldebau proffesiynol. Rydym yn cynnig cyfres o 12 o ganllawiau arfer da, a luniwyd i ategu’r Cod a helpu i arwain barn a phenderfyniadau proffesiynol cofrestreion o ddydd i ddydd. Rydym hefyd wedi cynhyrchu fideo ar-lein sy’n sôn am y Cod, yn ogystal â phynciau eraill yn ymwneud â phriodoldeb i ymarfer. Mae’r fideo hwn ar gael i’w wylio’n hawdd gan bob rhanddeiliad.

Yn unol â deddfwriaeth, cafodd y Cod ei adolygu a bu’n destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod 2024/25. Bydd Cod diwygiedig ar gael i gofrestreion, dysgwyr, y cyhoedd a rhieni/gwarcheidwaid ym mis Medi 2025.

4. Ynghylch Priodoldeb i Ymarfer

Mae gennym ddyletswydd statudol i ymchwilio i achosion yn erbyn cofrestreion, a chlywed yr achosion hynny, lle honnir ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol a/neu os yw’r cofrestrai wedi’i gael yn euog (ar unrhyw adeg) o drosedd berthnasol.

Mae ein Gweithdrefnau a Rheolau Disgyblu 2024 yn amlinellu’r gweithdrefnau a ddilynwn wrth ymgymryd â’n gwaith yn y maes hwn, gan gynnwys ein pwerau i osod Gorchmynion Atal Dros Dro Interim mewn amgylchiadau penodol.

Ar 31 Mawrth 2025, roedd gennym 53 o aelodau panel annibynnol yn ymgymryd â’r holl waith priodoldeb i ymarfer. Mae’r gronfa hon o aelodau panel yn cynnwys ymarferwyr cofrestredig ar draws y grwpiau cofrestreion, aelodau lleyg ac ymarferwyr sydd wedi ymddeol. Nid yw unrhyw aelod o’r Cyngor yn ymwneud ag achosion priodoldeb i ymarfer, ac nid ydynt yn aelodau o’r paneli. 

5. Atgyfeirio achosion

Mae CGA yn derbyn atgyfeiriadau mewn un o’r ffyrdd canlynol:

Atgyfeiriadau gan yr Heddlu

Gall heddluoedd wneud atgyfeiriadau’n uniongyrchol i CGA yn unol â datgeliad yr heddlu o dan gyfraith gyffredin (CLPD).

Cyflogwyr/Asiantau

Mae dyletswydd statudol ar gyflogwyr ac asiantaethau cyflenwi preifat i atgyfeirio cofrestrai i CGA:

  • os caiff cofrestrai ei ddiswyddo neu os yw’n gadael cyflogaeth cyn diswyddiad posibl (e.e. ymddiswyddo neu gytundeb setlo) (cyflogwyr)
  • os yw asiantaeth yn rhoi’r gorau i ddefnyddio gwasanaethau cofrestrai neu os gallai fod wedi gwneud hynny pe na fyddai’r cofrestrai wedi rhoi’r gorau i weithio iddi eisoes (asiantau)

Yn y ddau achos, dyma’r seiliau ar gyfer atgyfeirio:

  • camymddygiad; a/neu
  • anghymhwysedd proffesiynol; a/neu
  • euogfarn o drosedd berthnasol

Cwynion

Gall unrhyw unigolyn neu sefydliad wneud cwyn am ymddygiad neu anghymhwysedd honedig cofrestrai.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)

Mae CGA yn derbyn atgyfeiriadau’n uniongyrchol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).

CGA

Gall CGA hunanatgyfeirio cofrestreion os daw’n ymwybodol o wybodaeth am gofrestrai ac mae o’r farn bod gwneud hynny er budd y cyhoedd.

6. Beth sy'n digwydd pan dderbynnir achos?

Mae'r rhan fwyaf o atgyfeiriadau sy’n dod i law yn cael eu hystyried yn gyntaf gan Bwyllgor Ymchwilio a chynhelir y cyfarfodydd yn breifat/rhithwir.

Mae'r Pwyllgor Ymchwilio yn cynnwys isafswm o dri aelod panel annibynnol, gan gynnwys o leiaf un ymarferydd sydd wedi cofrestru gyda CGA ar hyn o bryd, ac un unigolyn lleyg. Cefnogir y Pwyllgor Ymchwilio gan ymgynghorydd cyfreithiol annibynnol nad yw’n cymryd rhan yn y broses benderfynu, ond sy’n sicrhau bod yr ymchwiliad yn deg.

Rôl y Pwyllgor yw penderfynu a yw’n debygol ai peidio y bydd ffeithiau’r achos yn cael eu profi, ac yna a allai’r canfyddiadau hynny fod yn gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol a/neu euogfarn o drosedd berthnasol, os bydd yr achos yn symud ymlaen i wrandawiad cyhoeddus.

Cynhelir gwrandawiad cyhoeddus pan fydd Pwyllgor Ymchwilio wedi penderfynu bod gan gofrestrai ‘achos i’w ateb’. Caiff y cofrestrai ei wahodd i fynychu a/neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad.

Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer yn cynnwys isafswm o dri aelod panel annibynnol, gan gynnwys o leiaf un ymarferydd sydd wedi cofrestru gyda CGA ar hyn o bryd, ac un unigolyn lleyg. Cefnogir y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer gan ymgynghorydd cyfreithiol annibynnol. Ni fydd gan y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer sy’n eistedd mewn gwrandawiad unrhyw wybodaeth flaenorol am yr achos ger ei fron.

Mae canlyniadau posibl gwrandawiadau fel a ganlyn:

  • ni phrofwyd y ffeithiau
  • profwyd y ffeithiau ond nid ymddygiad proffesiynol annerbyniol/anghymhwysedd proffesiynol difrifol a/neu drosedd berthnasol
  • profwyd y ffeithiau – dim gorchymyn
  • cerydd – caiff ei gofnodi am ddwy flynedd ar y Gofrestr
  • gorchymyn cofrestru amodol – caiff ei gofnodi ar y Gofrestr am gyfnod a bennir gan y Pwyllgor – os na phennir cyfnod, bydd y gorchymyn hwn yn berthnasol yn barhaol
  • gorchymyn atal dros dro – dileu’r unigolyn o’r Gofrestr am y cyfnod a bennir gan y Pwyllgor (heb fod yn fwy na 2 flynedd). Gellir cymhwyso amodau i orchymyn atal dros dro
  • gorchymyn gwahardd – dileu’r unigolyn o’r Gofrestr am gyfnod amhenodol – ni ellir gwneud cais am aildderbyn i’r Gofrestr hyd nes bod o leiaf 2 flynedd wedi mynd heibio

Ar ôl gwrando ar achos, os bydd pwyllgor priodoldeb i ymarfer yn gosod gorchymyn disgyblu (heblaw am orchymyn atal dros dro interim) ar gofrestriad ymarferydd addysg, bydd rhybudd i’r perwyl hwnnw yn ymddangos ar wefan CGA. Bydd y rhybudd yn parhau am gyfnod o 6 mis o’r diwrnod y caiff ei gyhoeddi.

Caiff unrhyw orchymyn disgyblu a osodir ei gofnodi ar gofnod yr ymarferydd ar Gofrestr CGA a bydd ar gael yn gyhoeddus am gyfnod y gorchymyn.

7. Crynodeb o waith achos Priodoldeb i Ymarfer

Eleni, terfynom 76 o achosion priodoldeb i ymarfer (ac eithrio Gorchmynion Atal Dros Dro Interim). Roedd hyn yn cynnwys 53 o wrandawiadau priodoldeb i ymarfer, yr oedd 48 ohonynt yn wrandawiadau rhithwir a 5 wyneb yn wyneb.

Cynhelir mwyafrif y gwrandawiadau yn rhithwir. Fodd bynnag, yn unol ag ymagwedd llawer o reoleiddwyr eraill, gwahoddir cofrestreion i gadarnhau p’un a ydynt yn dymuno i’w hachos gael ei glywed yn rhithwir neu ‘wyneb yn wyneb’. Er mwyn i wrandawiad ‘wyneb yn wyneb’ gael ei gadarnhau, mae’n rhaid i’r cofrestrai ymrwymo i fynychu’r gwrandawiad neu gael ei gynrychioli’n ‘bersonol’ ynddo.

Nodiadau ar y data

Gall ymarferydd gael ei gofrestru mewn mwy nag un categori ar unrhyw adeg. At ddiben yr adroddiad hwn, pan fydd unigolyn wedi’i gofrestru mewn mwy nag un categori, mae wedi’i gynnwys o dan ‘sawl categori cofrestru’.

7.1 Nifer yr achosion Priodoldeb i Ymarfer a derfynwyd yn ôl grŵp cofrestreion a blwyddyn  

Grŵp Cofrestreion2020/212021/222022/232023/242024/25
Athrawon ysgol 24 25 21 22 22
Athrawon addysg bellach 6 11 9 6 10
Gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach 2 3 0 6 4
Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion 19 21 21 26 29
Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith 5 9 5 10 9
Athrawon ysgolion annibynnol - - - 0 0
Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion annibynnol - - - 0 0
Athrawon sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - - - 0 0
Gweithwyr cymorth dysgu sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - - - 0 0
Gweithwyr cymorth ieuenctid 1 1 0 0 0
Gweithwyr ieuenctid 0 0 0 0 1
Ymarferwyr addysg oedolion - - - - 0
Penaethiaid ac uwch arweinwyr addysg bellach - - - - 0
Sawl categori cofrestru 9 16 15 4 1
Cyfanswm 66 86 71 74 76

O'r 76 o achosion y cyfeirir atynt uchod:

  • ystyriwyd 53 o achosion mewn gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer (heb gynnwys gwrandawiadau Gorchymyn Atal Dros Dro Interim)
  • ystyriwyd bod 10 o achosion yn rhai ‘dim achos i’w ateb’ gan bwyllgor ymchwilio
  • roedd 55 achos yn ymwneud â chofrestreion a waharddwyd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn i CGA wneud penderfyniad terfynol

Nodyn ychwanegol: ychwanegwyd dau gategori cofrestru newydd at y Gofrestr ar 10 Mai 2024. Hyd at ddiwedd 31 Mawrth 2025, nid oedd unrhyw achosion wedi cael eu derbyn na’u terfynu ar gyfer unrhyw un o’r grwpiau newydd hyn.

7.2 Ffynhonnell atgyfeirio – achosion a ddaeth i law yn 2024-25 

  2020/212021/222022/232023/242024/25
Cyflogwyr/Asiantau 75.8% 73.3% 85.9% 71.3% 73.7%
 Heddlu 9.1% 10.5% 7.0% 13.8% 6.6%
Atgyfeiriadau gan yr CGA 7.6% 3.5% 0.0% 8.8% 6.6%
Hunanatgyfeirio 0.0% 11.6% 2.8% 6.3% 11.8%
 Arall 7.5% 1.2% 4.2% 0.0% 1.3%

*Mae ‘Eraill’ yn cynnwys cwynion neu atgyfeiriadau gan y DBS a rheoleiddwyr eraill

7.3 Canlyniadau achosion priodoldeb i ymarfer yn ôl blwyddyn

  2020/212021/222022/232023/242024/25
Terfynwyd heb osod gorchymyn 28 (42%) 27 (31%) 25 (35%) 28 (38%) 27 (36%)
Cerydd 9 20 19 18 20
Gorchymyn cofrestru amodol 1 1 0 4 1
Gorchymyn atal dros dro (dim amodau) 5 4 2 2 1
Gorchymyn atal dros dro (gydag amodau) 4 2 2 1 5
Gorchymyn gwahardd 15 23 17 17 17
Cais i amrywio/torri amodau 1 0 1 0 0
Cais i fod yn gymwys yn dilyn gorchymyn gwahardd 0 3 0 1 0
Gwaharddwyd gan y DBS cyn i CGA derfynu’r achos 3 6 5 3 5
Caewyd yr achos – bu farw’r cofrestrai 0 0 0 0 0
Cyfanswm 66 86 71 74 76

O'r 27 o achosion a derfynwyd heb orchymyn:

  • cafodd 9 eu terfynu ar y cam gwrandawiad
  • ystyriwyd bod 10 yn rhai ‘dim achos i’w ateb’ gan Bwyllgor Ymchwilio
  • roedd 8 yn ymwneud â mân euogfarnau ac fe’u caewyd gan nodi ‘dim camau pellach’

7.4 Mathau o ymddygiad – achosion a derfynwyd yn 2024/25

Math o ymddygiadNifer yr Achosion
Euogfarnau ac ymddygiad 18
Euogfarn(au) yn unig 14
Cyfuniad o faterion camymddygiad 11
Ymddygiad amhroffesiynol/amhriodol tuag at ddysgwyr 8
Lefel amhriodol o gosb/grym/ataliaeth/cyswllt corfforol 7
Methiant i fodloni safonau ymarferwyr 5
Camarfer mewn arholiadau/asesiadau 2
Methiant i gydymffurfio â gweithdrefnau 2
Bod o dan ddylanwad alcohol yn y gwaith 2
Iaith sarhaus 1
Torri ymddiriedaeth 1
Bwlio/aflonyddu cydweithwyr 1
Bwlio/aflonyddu dysgwyr 1
Honiadau, datganiadau ffug a/neu ddogfennau wedi’u ffugio 1
Cysylltiad amhriodol â dysgwyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol 1
Perthynas amhriodol â dysgwyr 1
Cyfanswm 76

 

7.5 Amser cwblhau ar gyfer achosion a derfynwyd yn 2024/25

Mae nifer o ffactorau sy’n effeithio ar yr amserlenni ar gyfer terfynu achosion, gan gynnwys:

  • achosion gerbron tribiwnlys cyflogaeth (bydd CGA yn gohirio ystyried yr achos hyd nes bod y tribiwnlys yn dod i ben)
  • mae iechyd y cofrestrai’n wael ac mae tystiolaeth feddygol yn cadarnhau nad yw’n ddigon iach i gymryd rhan, ond mae’n dymuno gwneud hynny
  • ceisiadau am ohirio ymchwiliad neu wrandawiad, neu faterion eraill a godir gan y cofrestrai neu ei gynrychiolydd wrth baratoi ei achos
  • canfyddir pryderon pellach wrth baratoi ar gyfer y gwrandawiad y mae angen eu cyfeirio’n ôl at bwyllgor ymchwilio yn y lle cyntaf

Mae CGA yn monitro ei amserlenni ei hun ar gyfer terfynu achosion o gymharu â rheoleiddwyr/cyrff proffesiynol eraill ac mae’n parhau i arwain yn y maes hwn.

  Nifer yr achosion %
Terfynwyd yr achos o fewn 8 mis (35 wythnos) 66 87%
 
Achos heb ei derfynu o fewn 8 mis (35 wythnos)    
Codwyd materion gan y cofrestrai/cyflogwr 3 4%
Oedi arall gan drydydd parti e.e. yr Heddlu 1 1%
Codwyd materion gan CGA 6 8%
Cyfanswm nifer yr achosion a derfynwyd yn 2024-25 76 100%

O'r 66 o achosion a derfynwyd o fewn 8 mis, yr amser cyfartalog a gymerwyd o dderbyn i derfynu oedd 24 wythnos (5 mis a hanner).

7.6 Demograffeg yr achosion disgyblu a derfynwyd yn 2024/25

Sylwer:

  • Daw'r ‘gweithlu cofrestredig’ o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg ar 31 Mawrth 2025.

Rhyw

 RhywAchosion PiYGweithlu cofrestredig
Benyw  47.4% 78.5%
Gwryw 52.6% 21.4%
Anhysbys  0.0% 0.1%
 

Oed

OedAchosion PiYGweithlu cofrestredig
O dan 30  15.8% 21.6%
30-39 18% 24%
40-49 32.9% 24.5%
50-59 25.0% 21.3%
60+ 7.9% 8.2%
 

Hunaniaeth genedlaethol

 Hunaniaeth genedlaetholAchosion PiYGweithlu cofrestredig
Albanaidd, Gwyddelig, Gogledd Iwerddon  0.7% 1.3%
Ddim am gofnodi hunaniaeth genedlaethol  0.8% 1.3%
 Arall  3.6% 1.3%
 Seisnig  5.8% 6.6%
 Anhysbys  9.4% 13.2%
 Prydeinig  26.9% 28.9%
 Cymreig  52.8% 47.4%
 

Grŵp ethnig

 Grŵp ethnigAchosion PiYGweithlu cofrestredig
Anhysbys 13.2% 9.5%
Ddim am gofnodi grŵp ethnig 1.3% 1.4%
Grŵp ethnig arall 1.3% 0.6%
Du/Affricanaidd/Carribïaidd/du Prydeinig 1.3% 1.1%
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig 1.3% 2.3%
Cymysg/nifer o grwpiau ethnig 0.0% 1.0%
Gwyn 81.6% 84.0%
 

Y Gymraeg

Pan fydd ymarferwyr yn gwneud cais i ymuno â’r Gofrestr, gofynnir iddynt gadarnhau a ydynt yn gallu siarad Cymraeg ai peidio. Mae ateb cadarnhaol yn golygu eu bod yn rhugl, neu’n weddol rugl, yn yr iaith.

Hefyd, gofynnir iddynt gadarnhau a ydynt yn darparu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, neu’n gallu gwneud hynny.

Yn y ddau achos, mae’r ymatebion wedi’u seilio ar ‘hunanddatgan’.

Siaradwyr Cymraeg

 Siaradwyr CymraegAchosion PiYGweithlu cofrestredig
Ydy 1.1% 24.7%
Nac ydy 67.1% 68.6%
Anhysbys 11.8% 6.7%

 

Gallu darparu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg

Gallu darparu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y GymraegAchosion PiYGweithlu cofrestredig
Ydy 15.8% 20.1%
Nac ydy 72.4% 73.1%
Anhysbys 11.8% 6.8%
 
 

8. Gorchmynion Atal Dros Dro Interim

Os rhoddir gwybod i CGA fod cofrestrai wedi cael ei gyhuddo o gamymddwyn difrifol iawn, mae gennym bwerau statudol i osod gorchymyn atal dros dro interim (ISO). Bydd ISO o’r fath yn dileu cofrestrai o’r Gofrestr dros dro fel ‘mesur brys’ tra’n disgwyl ymchwiliad. Gwneir hyn i ddiogelu dysgwyr a’r cyhoedd tra bod ymchwiliad heddlu yn cael ei derfynu, er enghraifft.

Gall ISO fod ar waith am hyd at 18 mis. Mae ein pwyllgorau ISO annibynnol yn cynnal adolygiadau ISO rheolaidd hefyd i sicrhau nad yw unrhyw ISO yn cael ei gymhwyso am gyfnod hwy nag sy’n angenrheidiol ac yn gymesur. Fel arfer, cynhelir yr adolygiadau hynny ymhen 6 mis a 12 mis ar ôl gosod ISO. Hefyd, gellir cynnal adolygiad ar unrhyw adeg pan fydd newid i’r risg a arweiniodd at osod yr ISO

Cynhelir pob gwrandawiad pwyllgor ISO yn breifat/yn rhithwir.

Nifer y Gorchmynion Atal Dros Dro Interim (ISO) a osodwyd

Grwpiau Cofrestreion2022/232023/242024/25
Athrawon ysgol 1 5 9
Athrawon addysg bellach 0 0 2
Gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach 0 0 0
Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion 1 4 2
Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith 0 0 0
Athrawon ysgolion annibynnol - 0 1
Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion annibynnol - 0 0
Athrawon sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - 0 0
Gweithwyr cymorth dysgu sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - 0 0
Gweithwyr cymorth ieuenctid 0 0 0
Gweithwyr ieuenctid 0 0 0
Ymarferwyr addysg oedolion - - 0
Penaethiaid ac uwch arweinwyr addysg bellach - - 0
Sawl categori cofrestru 1 0 0
Cyfanswm 3 9 14

Yn ogystal â’r 14 ISO a osodwyd yn ystod 2024/25:

  • ni chymeradwywyd dau argymhelliad i osod ISO ar athro ysgol yn 2024/25 
  • cafodd dau argymhelliad i osod ISO ar athro ysgol yn 2024/25 eu tynnu’n ôl cyn cyrraedd Pwyllgor ISO

O'r 14 achos a derfynwyd yn 2024/25, yr amser cyfartalog a gymerwyd o dderbyn i derfynu oedd 6 wythnos a hanner.

Gan fod Gorchmynion Atal Dros Dro Interim yn ‘fesur brys’, ymdrinnir â’r achosion yn gyflym oherwydd eu natur a’u diben.

9. Asesu addasrwydd i gofrestru 

Gofynnir i ddarpar gofrestreion ateb nifer o gwestiynau yn ymwneud â’u hanes blaenorol wrth wneud cais am gofrestru gyda CGA. Os yw ymgeisydd yn ateb yn gadarnhaol i unrhyw gwestiwn yn y datganiad hwn, caiff ei gais ei asesu gan y Tîm Priodoldeb i Ymarfer.

Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am ddangos ei addasrwydd i gofrestru gyda ni.

Asesiad addasrwydd

Cam 1: Mae swyddogion o’r farn bod y datganiad a wnaed yn gymharol ddibwys ac ni fyddai’n effeithio ar addasrwydd yr ymgeisydd i gofrestru. Caniateir cofrestru.

Cam 2: Gofynnir i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth fanylach am amgylchiadau ei ddatganiad a thystlythyrau/sylwadau i gefnogi ei addasrwydd i gofrestru. Os yw swyddogion yn fodlon ar ymateb yr ymgeisydd, caniateir cofrestru.

Cam 3: Mae swyddogion yn penderfynu atgyfeirio’r cais i bwyllgor addasrwydd graffu arno’n annibynnol mewn cyfarfod preifat. Mae’r atgyfeiriadau hyn yn ymwneud â datganiadau lle nad yw Swyddogion yn fodlon caniatáu cofrestru ar Gam 2. Gwahoddir yr ymgeisydd i’r cyfarfod.

Cyfarfod addasrwydd

Mae cyfarfod y pwyllgor addasrwydd yn breifat/rhithwir, ac yn gyfle i’r ymgeisydd esbonio wrth y pwyllgor addasrwydd pam y mae o’r farn ei fod yn addas i’w gofrestru gyda CGA.

Mae’r pwyllgor addasrwydd yn cynnwys o leiaf dri aelod panel annibynnol, gan gynnwys o leiaf un ymarferydd sydd wedi cofrestru gyda CGA ar hyn o bryd, ac un person lleyg. Caiff y pwyllgor ei gefnogi gan ymgynghorydd cyfreithiol annibynnol.

Ar ôl clywed gan yr ymgeisydd, mae’r pwyllgor addasrwydd yn ymneilltuo i ystyried, yn breifat, p’un a ddylai ganiatáu cofrestru neu beidio. Os na chaniateir cofrestru, ni chaiff yr ymgeisydd wneud unrhyw gais pellach yn yr un categori/categorïau cofrestru am 12 mis pellach, ac wedi hynny caiff ailymgeisio i gofrestru.

9.1. Nifer yr asesiadau addasrwydd yn dilyn datganiad a wnaed gan ymgeisydd, yn ôl grŵp cofrestreion, ac yn ôl blwyddyn

Grŵp Cofrestreion2020/212021/222022/232023/242024/25
Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion 80 86 96 137 117
Athrawon ysgol 33 30 24 22 25
Athrawon addysg bellach 16 20 12 9 10
Gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach 5 6 7 8 12
Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith 14 9 13 17 7
Gweithwyr ieuenctid 0 0 1 0 3
Gweithwyr cymorth ieuenctid 6 3 0 2 1
Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion annibynnol - - - 3 8
Athrawon ysgolion annibynnol - - - 1 1
Gweithwyr cymorth dysgu sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - - - 0 0
Athrawon sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - - - 0 1
Ymarferwyr addysg oedolion - - - - 0
Penaethiaid ac uwch arweinwyr addysg bellach - - - - 0
Sawl categori cofrestru 27 29 33 19 23
Cyfanswm 181 183 186 218 208

 

9.2. Canlyniadau asesiadau addasrwydd ar ôl gwneud datganiad, yn ôl blwyddyn

Canlyniadau2020/212021/222022/232023/242024/25
Caniatawyd y cais
(Cam 1/2)
143 (79.0%) 149 (81.4%) 159 (85.5%) 159 (72.9%) 148 (71.2%)
Caniatawyd y cais
(Cam 3)
2 (1.1%) 10 (5.5%) 4 (2.2%) 8 (3.7%) 6(2.9%)
Gwrthodwyd y cais
(Cam 3)
1 (0.6%) 2 (1.1%) 4 (2.2%) 1 (0.5%) 3 (1.4%)
Tynnwyd y cais yn ôl/caewyd y cais 35 (19.3%) 22 (12.0%) 19 (10.1%) 50 (22.9%) 51 (24.5%)
Cyfanswm 181 183 186 218 208

Sylwer: Gall CGA a’r ymgeisydd ill dau dynnu ceisiadau yn ôl/gau ceisiadau. Er enghraifft, os na fydd ymgeisydd yn ymateb i ymholiadau am y datganiad a wnaeth, gallem roi’r gorau i’n hasesiad. Hefyd, gall ymgeisydd benderfynu tynnu ei gais yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod y broses asesu.

9.3 Math o ddatganiad a wnaed – ymgeiswyr i gofrestru lle gwnaed datganiad – asesiadau a gwblhawyd 2024/25

 Math o ddatganiad a wnaed Canran
Rhybuddiad/Euogfarn 58.0%
Arall 42.0%

Mae ‘Arall’ yn cynnwys:

  • gweithredu blaenorol neu weithredu yn yr arfaeth gan gyflogwr neu gorff rheoleiddio arall
  • methiant i ddatgan gwybodaeth
  • gwneud datganiad nad oedd yn bodloni’r trothwy ar gyfer datgelu 

9.4 Demograffeg ymgeiswyr i gofrestru yn 2024/25

Rhyw

RhywYmgeiswyr - gwnaed datganiadCyfanswm ymgeiswyr
Benyw 57.2% 75.9%
Gwryw 42.8% 24.0%
Anhysbys 0.0% 0.1%
 

Oed

OedYmgeiswyr - gwnaed datganiadCyfanswm ymgeiswyr
O dan 30 27.9% 50.2%
30-39 32.2% 22.0%
40-49 16.8% 14.7%
50-59 13.5% 8.9%
60+ 9.6% 4.1%
 
 

Hunaniaeth genedlaethol

AnhysbysYmgeiswyr - gwnaed datganiadCyfanswm ymgeiswyr
Unknown 0.0% 0.1%
Ddim am gofnodi hunaniaeth genedlaethol 0.5% 0.7%
Arall 1.4% 7.9%
Albanaidd, Gwyddelig, Gogledd Iwerddon 0.0% 0.8%
Seisnig 6.3% 5.5%
Prydeinig 43.8% 39.1%
Cymreig 48.1% 45.8%

 

Grŵp ethnig

Grŵp ethnigYmgeiswyr - gwnaed datganiadCyfanswm ymgeiswyr
Anhysbys 0.0% 0.1%
Ddim am gofnodi grŵp ethnig 0.0% 1.1%
Grŵp ethnig arall 1.4% 1.3%
Du/Affricanaidd/Carribïaidd/du Prydeinig 2.4% 3.1%
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig 1.0% 5.4%
Cymysg/nifer o grwpiau ethnig 3.8% 2.2%
Gwyn 91.3% 86.8%

 

10. Apeliadau Sefydlu

Ni yw’r corff apeliadau ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) yng Nghymru:

  • sy'n methu eu cyfnod Sefydlu statudol
  • y mae eu cyfnod Sefydlu statudol yn cael ei ymestyn

ac sy’n dymuno apelio yn erbyn y penderfyniadau hynny, fel y’u gwnaed gan yr awdurdod lleol sy’n gysylltiedig.

Yn 2024/25, ni chafodd CGA unrhyw apeliadau sefydlu ac ni chafodd unrhyw apeliadau sefydlu eu terfynu ganddynt.

11. Edrych tuag at 2025/26

Byddwn yn:

recriwtio aelodau panel ychwanegol er mwyn cynnal cyflenwad sy’n caniatáu ar gyfer gweinyddu ein gwaith achos yn effeithiol

parhau i weithio ar ddatblygu ystod o ddeunyddiau ac adnoddau ar-lein, gan gynnwys nifer o fideos gwybodaeth sy’n hysbysu’r cyhoedd am ein gwaith yn y maes hwn ac i gynorthwyo a chefnogi’r holl bartïon sy’n ymwneud â gwaith achos priodoldeb i ymarfer

ailgyhoeddi ein Cod yn sgil adolygiad ac ymgynghoriad cyhoeddus arno, yn unol â gofyniad Llywodraeth Cymru i wneud hynny bob tair blynedd – ein nod yw sicrhau ei fod yn berthnasol, yn hygyrch ac yn ystyrlon i’r holl gategorïau cofrestreion, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi ymuno â’r Gofrestr ers mis Mai 2023

parhau i gyflwyno hyfforddiant i ystod o wahanol gynulleidfaoedd (cwblhawyd 46 o sesiynau yn 2024/25) – cofrestreion presennol a darpar gofrestreion, cyflogwyr, asiantau a rhanddeiliaid allweddol eraill am y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol