Ein gwaith
Mae’n ofyniad cyfreithiol i weithwyr addysg proffesiynol sy’n gweithio mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, addysg oedolion neu ddysgu yn seiliedig ar waith gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Y Gofrestr Ymarferwyr Addysg (y Gofrestr) yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o blith unrhyw broffesiwn yng Nghymru a’r ehangaf o’i math yn fyd-eang, gan gynnwys dros 91,000 o ymarferwyr ar draws 13 o grwpiau addysg.
Mae CGA yn cael ei lywodraethu gan Gyngor o 14 aelod sy’n darparu arweinyddiaeth strategol, yn sicrhau llywodraethiant effeithiol ac yn goruchwylio gwaith y sefydliad.
Mae CGA, a sefydlwyd trwy ddeddfwriaeth, yn chwarae rhan hanfodol mewn cynnal safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol, gan ddiogelu buddiannau dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd yn ehangach.
Mae ein gweithwyr yn ganolog i gynnal yr ymddiriedaeth, y proffesiynoldeb a’r parch sy’n sylfaen i’r gwaith hwn. Trwy eu harbenigedd a’u huniondeb, maen nhw’n cyflawni ein cyfrifoldebau statudol, gan weithio’n agos gyda’r llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol i ddarparu cyngor cadarn, wedi’i seilio ar dystiolaeth, ar faterion y gweithle a pholisi addysg ehangach.
Trwy ymuno â ni, dewch yn rhan o sefydliad dynamig, cynhwysol ac uchel ei barch, sy’n ymrwymo i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc trwy gryfhau proffesiynoldeb a safonau ar draws y gweithlu addysg yng Nghymru.
Lisa Winstone
Prif Weithredwr
