CGA / EWC

About us banner
Pecyn ymgeiswyr
Pecyn ymgeiswyr

Ein timau

Mae gan ein sefydliad tua 55 o weithwyr sy’n gweithio ar draws amrywiaeth eang o rolau a meysydd arbenigedd, gan gynnwys:

Tîm Cofrestru

Mae’n goruchwylio ein Cofrestr trwy gasglu ffioedd cofrestru blynyddol, prosesu ymgeiswyr newydd, a chynnig cyngor ac arweiniad ar ymholiadau am gymwysterau a chofrestru.

Tîm Priodoldeb i Ymarfer

Mae’n sicrhau mai dim ond cofrestreion sy’n bodloni’r safonau sydd wedi’u cyflwyno yn y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy’n gallu gweithio yng Nghymru, trwy asesu ceisiadau i gofrestru a chefnogi’r gwaith o ymchwilio i honiadau yn erbyn cofrestreion a chynnal gwrandawiadau arnynt.

Tîm Data

Mae’n dethol, yn dadansoddi ac yn adrodd ar y data unigryw rydym yn ei ddal ar y Gofrestr, gan gynnig cipolwg gwerthfawr i weithlu addysg Cymru a chynorthwyo â gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.

Tîm Achredu ac Ansawdd

Mae’n arwain rôl reoleiddiol CGA o ran achredu a monitro (a’r potensial i atal) rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru.

Tîm Hyrwyddo Gyrfaoedd

Mae’n hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg yng Nghymru, gan gynnwys datblygu a chyflwyno gwefan a gwasanaeth eiriolaeth Addysgwyr Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru. 

Tîm Polisi a Chynllunio

Mae’n arwain proses cynllunio strategol y sefydliad, yn goruchwylio gwaith polisi addysg, ac yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion statudol sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg a chydraddoldeb.

Tîm Datblygiad Proffesiynol a Chyllid

Mae’n gweinyddu’r rhaglen sefydlu statudol yng Nghymru. Mae hefyd yn datblygu ac yn cynnal y Pasbort Dysgu Proffesiynol, gan ddarparu lle i’n holl gofrestreion gipio’u dysgu proffesiynol, myfyrio arno a’i rannu.

Tîm Cyfathrebu

Mae’n rheoli enw da CGA, yn codi ymwybyddiaeth o’i gyfrifoldebau statudol, ac yn hyrwyddo’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig.

Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Mae’n cydlynu’r gwaith o gyflwyno’r dyfarniad cenedlaethol sy’n cefnogi ac yn cydnabod gwelliant yn safonau darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau gwaith ieuenctid.

Tîm Cymorth Corfforaethol

Mae’n darparu cymorth sefydliadol hanfodol ar draws AD, llywodraethu, gweinyddu a chyfleusterau, gan helpu i sicrhau bod CGA yn gweithredu’n hwylus, yn gyfreithlon ac yn gyson â pholisïau a gweithdrefnau mewnol.

TG

Mae’n cynnal ac yn datblygu systemau a seilwaith digidol y sefydliad, gan gefnogi gwasanaethau digidol a thechnoleg ddiogel a dibynadwy i staff, cofrestreion a rhanddeiliaid.

Cyllid

Mae’n goruchwylio cynllunio ariannol, cyllidebu ac adrodd ariannol, gan sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n briodol a bod y sefydliad yn bodloni ei ofynion statudol a’i ofynion llywodraethu.

Uwch Dîm Rheoli

Mae’n gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd, gan gynnig arweinyddiaeth gorfforaethol a gweithio gyda’r Cyngor i ddatblygu strategaeth CGA.