CGA / EWC

About us banner
Siarad yn Broffesiynol 2025
Siarad yn Broffesiynol 2025

Cofleidio deallusrwydd artiffisial (AI) mewn addysg: cyfleoedd, heriau ac ystyriaethau moesegol

29 Ionawr 2025 16:00 ar Zoom

Yn ein digwyddiad Siarad yn Broffesiynol 2025 fe wnaethom groesawu yr ysgolhaig uchel ei pharch yn rhyngwladol, yr Athro Rose Luckin, yn siaradwr gwadd.

Fe wnaeth yr Athro Luckin archwilio potensial gweddnewidiol deallusrwydd artiffisial (AI) mewn addysg ledled Cymru, ac ymdrin â sut mae technolegau AI eisoes yn cael effaith.

Rhoddodd Rose gipolwg i dueddiadau y dylai addysgwyr eu rhagweld yn y dyfodol, gan gynnwys cymhwyso AI yn ymarferol, a chynnig strategaethau ar gyfer manteisio ar AI i wella deilliannau addysgol. Fe wnaeth hefyd sôn am yr ystyriaethau moesegol a holi cwestiynau hanfodol i ymarferwyr fyfyrio arnynt, cyn mynd i'r afael â'r sesiwn holi ac ateb.

Bydd recordiad o'r digwyddiad ar gael cyn bo hir.

  Lawrlwythwch y cyflwyniad a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad .