Ar ddydd Mawrth, 22 Mai, cynhaliwyd digwyddiad cyhoeddus arbennig yng Ngwesty'r Angel, Caerdydd, gyda'r Athro John Furlong a'r Athro Jennifer Gore.
![]() |
Yr Athro John Furlong yw Athro Emeritws addysg ym Mhrifysgol Rhydychen, ac awdur adroddiad 2015 'Addysgu Athrawon Yfory'. Efe hefyd yw Cadeirydd Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon CGA. |
![]() |
Mae'r Athro Jennifer Gore yn Athro Addysg ym Mhrifysgol Newcastle, Awstralia ac mae'n ymchwilydd blaenllaw ar ymchwil addysgol yn y wlad. |
Yn ei chyflwyniad bu'r Athro Jennifer Gore yn trafod y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil addysgol, tystiolaeth o effaith ar ddysgwyr a grymuso athrawon i wella arfer proffesiynol a dysgu myfyrwyr.
Gellir lawrlwytho sleidiau'r Athro Gore o'r digwyddiad yma .