CGA / EWC

About us banner
Cylchlythyr FyCGA Ebrill 2025
Cylchlythyr FyCGA Ebrill 2025

Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd

Amser edrych ar eich cofnod

Gallwch weld a diweddaru eich manylion unrhyw bryd yn eich cyfrif FyCGA. Mae hyn yn cynnwys eich enw, e-bost, cyfeiriad cartref, a'ch cyflogaeth bresennol. Os oes gyda chi unrhyw anawsterau'n cael mynediad at eich cyfrif FyCGA, neu os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am eich cofnod This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Yn ein blog diweddaraf, rydym yn amlygu pum rheswm pam fod cadw eich cofnod yn gyfredol yn bwysig.

Astudiaethau achos PiY

Yn ein hastudiaeth achos Priodoldeb i Ymarfer (PiY) diweddaraf, ry'n ni'n edrych ar esiampl o lle cafodd gofrestrai gerydd ar ôl methu â datgan euogfarn wrth wneud cais i gofrestru gyda CGA. Mae'r astudiaethau achos yn seiliedig ar enghreifftiau go iawn, ac wedi eu creu i roi pwyntiau dysgu gwerthfawr i chi, i gynnal a chydymffurfio gyda'r Cod, a diogelu eich cofrestriad.

Diddordeb mewn dod i wrandawiad?

Caiff y mwyafrif o'n gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer eu clywed yn gyhoeddus, sy'n golygu y gallwch ymuno fel arsyllwr. Mae gwybodaeth ar wrandawiadau i ddod a sut i fynychu ar ein tudalennau priodoldeb i ymarfer.

Diweddariadau'r Cyngor

Ein cynlluniau strategol

Ry'n ni wedi cyhoeddi ein Cynllun Strategol 2025-28 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 wedi ei adnewyddu, gan osod ein blaenoriaethau a'n hymrwymiadau am y blynyddoedd nesaf.

Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol

Ymunwch â ni ar gyfer Dosbarth Meistr 2025

7 Mai 2025, 16:00-17:30

Gyda'r niwrowyddonydd, darlithydd, awdur, blogiwr, cyfathrebwr gwyddoniaeth, a'r comedïwr, Dr Dean Burnett, bydd  digwyddiad arbennig yma yn archwilio sut mae'r ymennydd sy'n datblygu yn gweithio, a sut gall deall ei brosesau greu cyfleoedd gwerthfawr mewn addysg. Mynnwch eich tocyn am ddim nawr.

Datgloi 25 mlynedd a mwy o arbenigedd gwaith achos priodoldeb i ymarfer CGA

13 Mai 2025, 10:00-11:15

Mae dal amser gyda chi i gadw eich tocyn am ddim yn y digwyddiad yma ar gyfer uwch arweinwyr. Am y tro cyntaf, rydym yn rhannu gwybodaeth a chipolygon o fwy na 25 mlynedd o waith rheoleiddio, gan ddefnyddio ein profiad o fwy na 5,000 o achosion.

Addysgwyr Cymru

Wyddech chi, yn ogystal â chael y nifer fwyaf o swyddi ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, mae Addysgwyr Cymru yn darparu gwasanaeth recriwtio, eirioli, a chefnogi? Ewch i'r wefan i weld sut gall y tîm eich helpu chi.

Cymryd rheolaeth o'ch datblygiad proffesiynol gyda'r PDP

Mae'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn adborth am ddim sydd ar gael i holl gofrestreion CGA. Mae'n eich galluogi i gynllunio, tracio, a myfyrio ar eich dysgu, unrhyw bryd, unrhyw le. I gael mwy o wybodaeth am sut gall y PDP eich helpu chi, gwyliwch ein hanimeiddiad byr.

Llongyfarchiadau i ddeiliaid newydd y Marc Ansawdd

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael eu Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) efydd cyntaf, Gwasanaethau Ieuenctid Merthyr Tudful wedi cael eu gwobr arian cyntaf, a Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi eu hailachredu gyda’r wobr efydd. Mae cael MAGI yn gyrhaeddiad gwych, sy'n cydnabod gwella safonau o ran darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. Llongyfarchiadau i bawb.

Hysbysu polisi

Defnyddio ein data i gefnogi'r gweithlu

Rydym wedi cael gwahoddiad i rannu ein mewnwelediadau gydag ymchwiliad pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg i recriwtio a dargadw athrawon. Gyda mynediad at ddata'r gweithlu, rydym mewn sefyllfa unigryw i amlygu'r prif heriau sy'n wynebu'r proffesiwn yn y maes yma, ar eich rhan.

Rhag ofn i chi ei fethu

Wedi colli digwyddiad?

Mae gyda ni gyfoeth o recordiadau ar ein sianel YouTube o ddigwyddiadau'r gorffennol, gan gynnwys ein darlithoedd Siarad yn Broffesiynol, Dosbarthiadau Meistr, digwyddiadau Eich CGA, briffiadau polisi, a llawer mwy. Maent oll ar gael i'w gwylio ar alw, ar adeg sy'n gyfleus i chi.