Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd
Astudiaethau achos PiY
Yn ein hastudiaeth achos Priodoldeb i Ymarfer (PiY) diweddaraf, ry'n ni'n edrych ar esiampl o lle cafodd gofrestrai gerydd ar ôl methu â datgan euogfarn wrth wneud cais i gofrestru gyda CGA. Mae'r astudiaethau achos yn seiliedig ar enghreifftiau go iawn, ac wedi eu creu i roi pwyntiau dysgu gwerthfawr i gofrestreion gynnal a chydymffurfio gyda'r Cod, a diogelu eu cofrestriad.
Diddordeb mewn dod i wrandawiad?
Caiff y mwyafrif o'n gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer eu clywed yn gyhoeddus, sy'n golygu y gallwch ymuno fel arsyllwr. Mae gwybodaeth ar wrandawiadau i ddod a sut i fynychu ar ein tudalennau priodoldeb i ymarfer.
Diweddariadau'r Cyngor
Ein cynlluniau strategol
Ry'n ni wedi cyhoeddi ein Cynllun Strategol 2025-28 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 wedi ei adnewyddu, gan osod ein blaenoriaethau a'n hymrwymiadau am y blynyddoedd nesaf.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Ymunwch â ni ar gyfer Dosbarth Meistr 2025
7 Mai 2025, 16:00-17:30
Gyda'r niwrowyddonydd, darlithydd, awdur, blogiwr, cyfathrebwr gwyddoniaeth, a'r comedïwr, Dr Dean Burnett, bydd digwyddiad arbennig yma yn archwilio sut mae'r ymennydd sy'n datblygu yn gweithio, a sut gall deall ei brosesau greu cyfleoedd gwerthfawr mewn addysg. Mynnwch eich tocyn am ddim nawr.
Datgloi 25 mlynedd a mwy o arbenigedd gwaith achos priodoldeb i ymarfer CGA
13 Mai 2025, 10:00-11:15
Mae dal amser gyda chi i gadw eich tocyn am ddim yn y digwyddiad yma ar gyfer cyflogwyr ac uwch arweinwyr. Am y tro cyntaf, rydym yn rhannu gwybodaeth a chipolygon o fwy na 25 mlynedd o waith rheoleiddio, gan ddefnyddio ein profiad o fwy na 5,000 o achosion.
Addysgwyr Cymru
Wyddech chi, yn ogystal â rhannu eich swyddi gwag am ddim, ar y safle fwyaf ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, y gallwch hefyd rannu gwybodaeth am unrhyw gyfleoedd dysgu proffesiynol sydd gyda chi? Mwy o wybodaeth am sut gall Addysgwyr Cymru arbed miloedd i'ch sefydliad drwy fynd i'r wefan.
Sut gall y PDP elwa eich sefydliad
Mae ein fideo astudiaeth achos newydd yn esbonio sut gall y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) eich elwa chi, eich sefydliad, a'ch staff, gan gynnwys y ffaith ei fod am ddim, heb gontractau na ffioedd. Gallwch ei wylio nawr ar ein sianel YouTube.
Llongyfarchiadau i ddeiliaid newydd y Marc Ansawdd
Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael eu Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) efydd cyntaf, Gwasanaethau Ieuenctid Merthyr Tudful wedi cael eu gwobr arian cyntaf, a Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi eu hailachredu gyda’r wobr efydd. Mae cael MAGI yn gyrhaeddiad gwych, sy'n cydnabod gwella safonau o ran darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. Llongyfarchiadau i bawb.
Hysbysu polisi
Defnyddio ein data i gefnogi'r gweithlu
Rydym wedi cael gwahoddiad i rannu ein mewnwelediadau gydag ymchwiliad pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg i recriwtio a dargadw athrawon. Gyda mynediad at ddata'r gweithlu, rydym mewn sefyllfa unigryw i amlygu'r prif heriau sy'n wynebu'r proffesiwn yn y maes yma, ar ran ein cofrestreion.
Rhag ofn i chi ei fethu
Wedi colli digwyddiad?
Mae gyda ni gyfoeth o recordiadau ar ein sianel YouTube o ddigwyddiadau'r gorffennol, gan gynnwys ein darlithoedd Siarad yn Broffesiynol, Dosbarthiadau Meistr, digwyddiadau Eich CGA, briffiadau polisi, a llawer mwy. Maent oll ar gael i'w gwylio ar alw, ar adeg sy'n gyfleus i chi a'ch staff.