Ym mis Ionawr 2025, cynhaliom ein digwyddiad Siarad yn Broffesiynol, ‘Cofleidio Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Addysg: Cyfleoedd, Heriau ac Ystyriaethau Moesegol,’ dan law’r Athro Rose Luckin. Bu’r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda thros 1,500 o bobl yn cofrestru i fod yn bresennol. O’r diddordeb mawr hwn, cyn ac ar ôl y digwyddiad, roedd un peth yn glir – mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn bwnc llosg ymhlith gweithlu addysg Cymru.
Yn y blog hwn, edrychwn eto ar rai o’r pwyntiau allweddol a godwyd yn ystod y digwyddiad i helpu addysgwyr lywio byd cymhleth AI.
Felly, beth yw AI?
AI, neu ddeallusrwydd artiffisial, yw’r dechnoleg sy’n galluogi cyfrifiaduron a pheiriannau i efelychu dysg, dealltwriaeth, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, creadigrwydd ac ymreolaeth pobl.
Ac yntau’n gysyniad ymhell i’r dyfodol ar un adeg, mae AI bellach yn trawsnewid y byd o’n cwmpas, ac nid yw byd addysg yn eithriad. Er bod ei ddatblygiad buan yn dwyn cyfleoedd cyffrous, mae’n codi heriau ac ystyriaethau moesegol hefyd y mae’n rhaid i addysgwyr ymrafael â nhw. Felly, sut gall pobl ym myd addysg gofleidio AI, gan sicrhau ei fod yn ychwanegu at ddysgu, yn hytrach nag yn tarfu arno?
Potensial AI mewn addysg
Er presenoldeb cynyddol AI, mae bwlch o hyd rhwng ymwybyddiaeth a defnydd. Yn ôl canfyddiadau gan Beyond the Hype, er bod 87% o addysgwyr yn deall cysyniadau AI cyffredinol, dim ond 38% ohonynt sy’n teimlo’n hyderus i’w ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Yn ogystal, dim ond 30% o sefydliadau sydd â pholisïau neu strwythurau llywodraethu AI ar waith.
O’i ddefnyddio’n ddoeth, ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol, mae gan AI y grym i wella dysgu ac addysgu. Gall rhai o’i fuddion allweddol yn cynnwys:
- dysgu personoledig: gall AI addasu yn ôl arddulliau dysgu unigol, gan ddarparu adnoddau wedi’u teilwra ac adborth amser real
- llai o faich gwaith: gall marcio, adborth a thasgau gweinyddol wedi’u hawtomeiddio ryddhau amser ymarferwyr am ryngweithiadau mwy ystyrlon
- profiadau dysgu ymdrochol: gall realiti estynedig a realiti rhithwir (AR/VR) wella ymgysylltiad a dealltwriaeth
- cipolygon wedi’u gyrru gan ddata: gall AI olrhain cynnydd, amlygu bylchau mewn dysgu ac awgrymu ymyriadau targedig
- creu cynnwys: gall offer wedi’u gyrru gan AI gynorthwyo addysgwyr â chreu cynlluniau a deunyddiau dysgu, gan sicrhau eu bod yn berthnasol a’u bod yn ennyn sylw
Er bod y buddion hyn yn amlygu addewid AI, mae’r defnydd ohono hefyd yn codi pryderon moesegol ac ymarferol pwysig.
Yr heriau a’r dilemâu moesegol
Mae AI yn cynnig cyfleoedd lu, ond mae’n peri risgiau, hefyd. Yn yr un modd ag unrhyw offeryn grymus, rhaid ei ddefnyddio’n gyfrifol. Mae rhai o’r pryderon pennaf yn cynnwys:
- rhagfarn a chamwybodaeth: mae AI yn dysgu o ddata, nad yw bob amser yn amrywiol nac yn gywir, gan arwain at ganlyniadau cam
- diffyg tryloywder: mae llawer o fodelau AI yn gweithredu ar ffurf ‘blychau du’, gan olygu nad yw eu prosesau penderfynu yn weladwy nac yn ddealladwy iawn, felly mae’n anodd gweld sut y dônt i gasgliadau
- preifatrwydd a diogelwch data: gydag AI yn delio â lefelau enfawr o ddata personol, mae diogelu preifatrwydd myfyrwyr ac ymarferwyr yn allweddol
- dibyniaeth ar AI: gallai gorddibynnu ar AI danseilio dulliau addysgu traddodiadol a sgiliau meddwl yn feirniadol
- risgiau diogelwch: mae cynnwys wedi’i gynhyrchu gan AI, technoleg ffugiad dwfn a chamwybodaeth yn peri heriau newydd i addysgwyr a dysgwyr, fel ei gilydd
I lywio’r heriau hyn a gwneud y mwyaf o fuddion AI, mae ar sefydliadau angen cynllun clir ar sut byddant yn defnyddio AI yn ddiogel.
Datblygu strategaeth AI
Yn ei hanerchiad, pwysleisiodd yr Athro Luckin fod rhaid i sefydliadau fabwysiadu strategaeth AI wedi’i diffinio’n dda i harneisio AI yn effeithiol ac yn ddiogel. Dylai’r strategaeth hon gynnwys camau llywodraethu clir i sicrhau bod defnyddio AI yn cyd-fynd â nodau, polisïau, a gweithderfnau sefydliadol ac addysgol, a dylai ddarparu dull strwythuredig o nodi a pheilota offer AI. Hefyd, mae’n rhaid i’r strategaeth baratoi staff, dysgwyr a phobl ifanc â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i ddefnyddio AI yn ddiogel, gan rymuso addysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am ei weithredu.
Ymhlith pethau eraill, dylai strategaeth AI gadarn:
- wella ymwybyddiaeth o alluoedd a chyfyngiadau AI, gan hyrwyddo defnydd cyfrifol a moesegol ohono
- lliniaru risgiau camddefnyddio neu orddibynnu ar AI
- paratoi staff ar gyfer datblygiadau ac integreiddio AI yn y dyfodol
- meithrin diwylliant o arloesi a dysgu parhaus
- canolbwyntio ar gynyddu llythrennedd data a sicrhau bod data’n cael ei ddefnyddio’n gyfrifol
- cryfhau sgiliau meddwl yn feirniadol ymhlith staff a dysgwyr, fel ei gilydd
- diogelu dysgwyr a phobl ifanc yn oes AI
Dyfodol AI mewn addysg
Ymddengys fod pryder cyffredinol y bydd AI mewn addysg yn ‘crebachu’ galluoedd dysgwyr, neu y bydd yn disodli addysgwyr, ond nid yw’r naill na’r llall yn wir.
Mae AI yma i aros, a dim ond parhau i dyfu fydd ei rôl mewn addysg. Yr hyn sy’n allweddol yw edrych ar AI fel offeryn sy’n gwella’r profiad dysgu, yn hytrach na’i ddominyddu. Trwy sefydlu strategaethau clir, blaenoriaethu ystyriaethau moesegol ac adolygu rôl AI yn barhaus, gall addysgwyr sicrhau bod y technolegau newydd hyn yn cyfrannu’n gadarnhaol at ddysgu ac addysgu ar draws Cymru.
A ydych chi’n barod i gofleidio AI yn eich ymarfer?
Eisiau gwybod rhagor?
Gallwch wylio araith lawn yr Athro Luckin eto ar ein sianel YouTube.
Hefyd, gallwch wrando ar ei rhifyn arbennig o’n podlediad, Sgwrsio gyda CGA, lle mae Rose yn ateb y cwestiynau na lwyddom i’w hateb yn ystod y digwyddiad.