Heddiw (1 Medi 2022), mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi ei God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig.
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru ac, yn unol â deddfwriaeth, mae’n ofynnol iddo adolygu’r Cod bob tair blynedd. Cwblhawyd adolygiad 2022 o God 2019 yn dilyn ymgynghoriad ag unigolion cofrestredig, rhanddeiliaid a’r cyhoedd, ac adborth ganddynt. Mae’r diwygiadau a wnaed yn rhai arwynebol yn bennaf, neu’n rhoi esboniad ychwanegol.
Mae’r Cod yn pennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir o’r 82,000 o ymarferwyr addysg sydd wedi cofrestru gyda CGA sy’n gweithio ledled Cymru, a bwriedir iddo lywio’u barnau a’u penderfyniadau.
Mae’r Cod diwygiedig ar gael i’w ddarllen nawr.