CGA / EWC

Fitness to practise banner
Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA
Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA

Ynglŷn â’r Cod

Mae Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg (‘y Cod’) yn cyflwyno’r safonau disgwyliedig ar gyfer pobl sydd wedi cofrestru gyda ni a bwriedir iddo gefnogi a llywio’u hymddygiad a’u crebwyll fel gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn swyddi addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Daeth fersiwn ddiweddaraf y Cod i rym ar 10 Mai 2024 i ddangos ychwanegu'r categorïau cofrestru newydd.

Mae cofrestreion yn ymrwymo i gynnal pum egwyddor allweddol y Cod:

  • Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol
  • Unplygrwydd Proffesiynol
  • Cydweithio
  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol
  • Dysgu Proffesiynol

Darllen y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.

Dogfennau ategol

Gweminarau

Cyfryngau cymdeithasol a'r Cod

Yn y weminar fer hon, mae ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio David Browne yn mynd â ni drwy rôl reoleiddiol, a chofrestru CGA, ac yn cynnig cyngor i gofrestreion am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel.

Posteri

Rydym wedi cynhyrchu posteri i’w harddangos yn eich lleoliad:

Poster i’w arddangos yn ystafell y staff
Poster i’w arddangos yn gyhoeddus

Canllawiau arfer da

Heyfd, mae cyfres o ganllawiau arfer da, sy’n cynorthwyo cofrestreion i gydymffurfio â’r Cod. Maent yn rhoi mwy o gyngor i gofrestreion ar eu hymarfer o ddydd i ddydd.

Mae ein canllaw i rieni  yn darparu gwybodaeth a chyngor i rieni am ein gwasanaethau ac maent yn eu helpu i chwarae rhan fwy gweithgar yn addysg eu plant.

Mae ein canllaw i lywodraethwyr yn rhoi gwybodaeth a chyngor i lywodraethwyr am ein gwasanaethau, a beth sydd angen iddynt wybod am y Cod.