CGA / EWC

About us banner
Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2023-24
Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2023-24

 

Lawrlwytho'r Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2023-24 (PDF)

Cyflwyniad

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.

Fe’n sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ac rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn 11 o wahanol gategorïau cofrestru sy’n rhychwantu ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu seiliedig ar waith. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr fwyaf pellgyrhaeddol o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda dros 90,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru.

Rydym wedi ein cynnwys yng nghategori pedwar Safonau’r Gymraeg. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gydymffurfio â 148 o safonau sy’n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau, materion gweithredol, llunio polisi, a chadw cofnodion. Mae ein polisi safon gwasanaeth, a chanllawiau ar ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn fewnol, yn esbonio sut fyddwn ni’n ymddwyn o ran gofynion y safonau, ac yn dilyn yr egwyddor y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael yr un statws yn ein gwaith a’n gweinyddu. Maen nhw hefyd yn cydnabod ein cyfrifoldeb i hyrwyddo a datblygu defnydd o’r Gymraeg o fewn ein gweithle ac yn y gweithlu addysg ehangach y mae ein cofrestreion yn ymarfer ynddo.

Ochr yn ochr â’r dogfennau hyn, mae’r adroddiad blynyddol hwn yn amlinellu sut rydym wedi cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn ystod 2023-24, gan fanylu ar sut rydym wedi gweithio i hyrwyddo defnydd o’r iaith, ymhlith ein cyflogeion, ac wrth ymgysylltu â chofrestreion a rhanddeiliaid allanol eraill. 


Prev Next »