CGA / EWC

About us banner
Pecyn ymgeiswyr
Pecyn ymgeiswyr

Cynhwysiant

Rydym yn ymrwymo i greu gweithle lle mae pawb yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a lle gallant ffynnu. Rydym yn cydnabod bod amgylchedd cynhwysol yn helpu i ddenu amrywiaeth eang ac amrywiol o ddoniau, gan sicrhau bod gweithwyr yn teimlo’u bod yn cael eu clywed a’u trin yn deg yn y gwaith. Mae hyn yn cryfhau ymdeimlad unigol o berthyn ac mae’n cyfrannu at syniadau ffres, sgyrsiau mwy cyfoethog a chanlyniadau cryfach.

Rydym yn cynnal sesiynau rheolaidd sy’n canolbwyntio ar y gweithiwr er mwyn ceisio adborth a mewnwelediad yn weithgar, gan sicrhau ein bod yn gwrando ar safbwyntiau gweithwyr a’u cynnwys yn ystyrlon yn ein harferion gweithio.

Ein hieithoedd swyddogol (Cymraeg a Saesneg)

Mae bod yn sefydliad cwbl ddwyieithog yn destun balchder i ni ac rydym yn ymrwymo i ymestyn a gwella ein gwasanaethau dwyieithog rhagorol yn barhaus, gan annog a hwyluso’r defnydd o’r ddwy iaith yn rhagweithiol. Er nad ydym yn gofyn bod ein holl weithwyr yn siarad Cymraeg, rydym yn disgwyl eu bod i gyd yn ymrwymo i ddarparu gwasanaethau yn ein dwy iaith swyddogol.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Mae ein diwylliant sefydliadol cynhwysol yn sicrhau bod ein holl weithwyr yn gallu gwireddu eu potensial llawn, ni waeth beth yw eu cefndir. Rydym am i’n gweithlu gynrychioli pob rhan o gymdeithas yn fwy cynrychioliadol, ar bob lefel yn y sefydliad. Mae ein hymrwymiad i recriwtio a denu doniau amrywiol yn ymestyn i annog ceisiadau’n weithgar oddi wrth grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Rydym yn defnyddio arferion recriwtio cynhwysol ac rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Ymrwymedig Hyderus o ran Anabledd, gan gynnig cymorth ac addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio i wneud yn siŵr eich bod yn gallu perfformio ar eich gorau.