CGA / EWC

About us banner
Pecyn ymgeiswyr
Pecyn ymgeiswyr

Ein buddion

Cyflog a phensiwn

Mae strwythur tâl CGA yn cyd-fynd â strwythur tâl Llywodraeth Cymru ac mae egwyddorion fforddiadwyedd, tryloywder a chyflog cyfartal yn sylfaen iddo. Mae’n cynnwys codiadau cyflog blynyddol a strwythur cyflog cynyddrannol.

Pan fyddwch yn ymuno â CGA, cewch eich cofrestru’n awtomatig yng Nghynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, y mae cydnabyddiaeth eang ei fod yn un o’r cynlluniau pensiwn mwyaf gwerthfawr yn y DU. Rydym yn buddsoddi yn eich dyfodol trwy gyfraniadau hael gan gyflogwr, gan eich helpu i adeiladu pensiwn sicr a chynaliadwy. Mae’r cynllun yn darparu ystod gynhwysfawr o fuddion cyn ac ar ôl ymddeol.

Gwyliau blynyddol, gwyliau banc a diwrnodau braint

Mae ein gweithwyr yn elwa o 31 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag wyth gŵyl banc a thri diwrnod braint.

Gweithio hyblyg

Bwriedir i weithio hyblyg yn CGA gefnogi anghenion unigol gweithwyr a hybu cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae ein swyddfa yng Nghaerdydd, mewn lleoliad canolog, yn elwa o gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol ac mae ein polisi ar weithio hybrid yn rhoi’r dewis i weithwyr weithio gartref am ran o’r wythnos.

Mae CGA yn gweithredu system amser hyblyg sy’n galluogi gweithwyr i weithio’n fwy cynhyrchiol o gwmpas eu hanghenion unigol, gyda’r dewis i amrywio eu hamseroedd dechrau a gorffen, o fewn terfynau cytunedig, gan gyflawni eu horiau a’u cyfrifoldebau gofynnol o hyd.

Polisïau ystyriol o deuluoedd

Ein nod yw cefnogi ein gweithwyr gydag absenoldeb a thâl hael o ran cyfnod mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir, yn ogystal ag opsiynau am egwyliau gyrfa, absenoldeb gofalwyr ac absenoldeb dibynyddion.

Iechyd a lles

Mae CGA yn cymryd iechyd meddwl a lles ei weithwyr o ddifri ac mae’n cydnabod bod hyn yn gyfrifoldeb craidd. Mae creu amgylchedd gwaith iach, cadarnhaol a chynhwysol yn flaenoriaeth glir, gyda lles wedi’i wreiddio’n ganolog mewn sut mae’r sefydliad yn gweithredu ac yn cefnogi ei bobl. Mae ein haddewid i Ymrwymiad Iechyd Meddwl yn y Gwaith Mind yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i les gweithwyr. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys:

  • rhaglen les flynyddol i weithwyr, gan gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i gymryd rhan ynddynt yn ystod oriau gwaith
  • rhaglen cymorth gweithwyr 24/7 sy’n cynnig cymorth proffesiynol cyfrinachol (emosiynol ac ymarferol) ar gyfer materion personol a gwaith
  • swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, sef ein rhwydwaith o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n darparu cymorth ac arweiniad i gymheiriaid
  • ystafell dawel bwrpasol sydd ar gael i weithwyr ei defnyddio yn ystod oriau gwaith
  • canolfan ffitrwydd ar safle Tŷ Eastgate (sef ein swyddfa)
  • mynediad at Hyb Lles, sy’n cynnwys gostyngiad ym mhris aelodaeth campfa, asesiadau iechyd, gostyngiadau adwerthu ar-lein, a mynediad at ap lles meddyliol sydd wedi’i gymeradwyo gan y GIG
  • profion llygaid am ddim yn flynyddol
  • pigiad y ffliw am ddim yn flynyddol
  • mynediad at Glwb Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil, gyda buddion sy’n cynnwys diwrnodau allan am ddim ac arbedion unigryw ar gampfeydd, chwaraeon, hamdden a siopa. 

Datblygu sgiliau Cymraeg

Rydym yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i weithwyr ddatblygu’u sgiliau Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ffurfiol strwythuredig trwy gyrsiau wedi’u cefnogi gan y cyflogwr, ynghyd ag opsiynau anffurfiol, fel mentora mewnol, gwirfoddoli a chymryd rhan mewn digwyddiadau a dathliadau diwylliannol Cymraeg.