Alice Ashton - 4 Gorffennaf 2025
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 30 Mehefin, ac 1 a 2 Gorffennaf 2025, wedi canfod bod honiadau o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ a ‘throsedd berthnasol’ wedi’u profi yn erbyn yr athrawes ysgol, Miss Alice ASHTON.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Miss Ashton:
- Ar 19 Medi 2023, yn Llys Ynadon Telford, wedi cael ei dyfarnu’n euog o yrru cerbyd modur gyda lefel alcohol a oedd yn uwch na’r terfyn ar 19 Awst 2023, yn groes i adran 5(1)(a) Deddf Traffig Ffyrdd 1988. O ganlyniad i’r drosedd hon, ar 19 Medi 2023, fe’i dedfrydwyd i orchymyn cymunedol 12 mis a 200 o oriau o waith di-dâl, ac fe’i datgymhwyswyd rhag dal neu gael trwydded yrru am 28 mis.
- Ar neu oddeutu 17 Ionawr 2024, yn ymddangos fel petai dan ddylanwad alcohol ac ag aroglau alcohol arni tra oedd yn y gwaith.
- Ar un neu fwy o ddyddiadau yn ystod neu oddeutu mis Ionawr 2024, wedi ymddwyn mewn modd amhriodol ac amhroffesiynol tuag at ddisgybl(ion) ac o’u blaen, yn yr ystyr bod Miss Ashton:
- wedi dweud “f***” a “s***”
- wedi dweud “s*** it” a/neu “f*** off” wrth ddisgybl(ion)
- wedi galw disgybl(ion) yn “divvys” a/neu’n “little s****”, a/neu’n “little b****”
- wrth ymateb i Ddisgybl G a ddywedodd y byddai’n “rhoi gwybod i rywun amdani”, dywedodd Miss Ashton “cer amdani, byddwn ni’n lladd arnat ti tra byddi di allan”, a “phaid â chario clecs”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Miss Ashton o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori athrawes ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Miss Ashton wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Miss Ashton yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 2 Gorffennaf 2027, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Miss Ashton hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.