Lawrlwytho Canllaw arfer da: Profi, asesu, arholiadau, a goruchwylio
Cyflwyniad
Mae mesur cynnydd addysgol dysgwyr a phobl ifanc yn rhan o fywyd pob dydd ym mhob sector addysg a hyfforddiant. I’r perwyl hwn, mae’n debygol y bydd y mwyafrif helaeth o ymarferwyr yn ymwneud â’r maes hwn mewn rhyw ffordd yn ystod eu gyrfaoedd.
Oherwydd bod addysg a hyfforddiant yn cael eu darparu mewn ffyrdd mor amrywiol bellach yng Nghymru, mae’r cyfrifoldebau penodol o fewn lleoliadau a reolir yn amrywiol ac yn niferus, o agor a storio papurau arholiad, ac arsylwi ymarfer, i asesu a dilysu proffiliau dysgwyr/rhaglenni gwaith. Fodd bynnag, yr hyn sy’n gyffredin yw’r amcan pennaf i gofrestreion sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg, fel y gellir bod yn hyderus yn y marciau a’r ardystiad a ddyfernir.
Bwriedir i’r canllaw hwn eich helpu i gyflawni’r rôl bwysig hon, nid y lleiaf oherwydd bod craffu ofalus yn anochel.
Nid canllawiau rheoleiddiol na gorfodol mo’r rhain. Cynhwyswyd senarios i’ch helpu i feddwl am rai o’r materion a allai godi a’u harchwilio, a sut gallai ein cyngor fod yn berthnasol. Rydym hefyd wedi cynnwys enghreifftiau o arferion annerbyniol lle mae’n amlwg y croeswyd ffiniau proffesiynol.
Y Cod
Mae holl gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn ddarostyngedig i’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) sy’n amlinellu’r egwyddorion ymddygiad ac ymarfer da allweddol a ddisgwylir ganddynt. Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â’r Cod.
Yr egwyddorion a’r disgwyliadau yn y Cod sy’n cyfeirio at weithdrefnau gorfodol yw:
2. Unplygrwydd Proffesiynol
Mae cofrestreion:
2.1 yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol
2.2 yn ymddwyn yn onest, a chydag unplygrwydd, yn arbennig mewn perthynas â’r canlynol:
- asesu a thasgau’n gysylltiedig ag arholiadau
Mae’r Cod yn bwynt cyfeirio pwysig. Meddyliwch am y pum egwyddor allweddol a’r disgwyliadau maen nhw’n eu gosod arnoch. Bydd y Cod yn eich helpu i wneud y penderfyniadau iawn pan fyddwch yn wynebu’r heriau yr ymdrinnir â nhw yn y canllaw hwn.
Mae’r Cod ar gael ar ein gwefan.
Rheoli eich cyfrifoldebau
Mae addysgwyr a hyfforddwyr yn ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw mesur cynnydd i ddatblygiad dysgwyr a phobl ifanc a’u gyrfaoedd yn y dyfodol. A dyna pam mae’r prosesau sy’n gysylltiedig yn destun craffu, gan y cyflogwr, y corff dyfarnu arholiadau, Llywodraeth Cymru, a hyd yn oed dysgwyr, pobl ifanc, rhieni, a chydweithwyr.
Mae’r ffordd rydych yn cynnal eich hun yn ystod tasgau sy’n gysylltiedig â phrofion ac asesiadau yn gofyn am lefel uchel o uniondeb personol a phroffesiynol. Am y rheswm hwn, dylai’r pwyntiau cyngor allweddol canlynol helpu i gefnogi’r cyfrifoldeb hwn, yn enwedig os yw’n ganolog i’ch rôl broffesiynol.
Dilyn canllawiau gorfodol
O ran unrhyw fath o arholiad, goruchwyliaeth, asesiad, neu brawf, mae’n rhaid bod canllawiau penodol a gorfodol yn bodoli sy’n amlinellu sut mae angen i’r rhain gael eu cynnal gan gyflogwr, a’r cofrestreion sy’n gyfrifol, i sicrhau tegwch.
Er nad oes gennym hawl i roi cyngor ar ganllawiau o’r fath, mae’n rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb personol am ddarllen, dilyn, a chymhwyso’r canllawiau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r canllawiau hynny.
Ein cyngor yw:
- darllenwch y canllawiau a’r gweithdrefnau perthnasol yn ofalus
- gwnewch yn siŵr eich bod yn deall eich rôl, a’r hyn y disgwylir i chi ei wneud
- gofynnwch gwestiynau os ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw ran o’r hyn sy’n ofynnol gennych
- gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth y dylech ei wneud os bydd problemau, neu ddigwyddiadau anarferol, yn codi
Os na roddir unrhyw ganllawiau i chi, gofynnwch amdanynt, gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau. Peidiwch â gadael i anwybodaeth eich rhoi mewn sefyllfa fregus.
Byddwch yn ofalus wrth lofnodi dogfennau
Yn rhan o’ch ymwneud, ac yn dibynnu ar eich rôl/sector, efallai y bydd angen i chi lofnodi i ddilysu gwaith, neu lofnodi i gadarnhau bod gweithdrefnau gorfodol wedi cael eu dilyn fel sy’n ofynnol.
Ein cyngor yw:
- darllenwch ddogfennau’n ofalus, cymerwch eich amser
- gwnewch yn siŵr eich bod yn deall pam y gofynnir/disgwylir i chi lofnodi dogfen, os ydych yn ansicr, gofynnwch
- os gofynnir i chi gadarnhau, trwy lofnodi, gwnewch yn siŵr fod hynny’n wir, cyn llofnodi unrhyw ddogfen:
- eich bod wedi dilyn y canllawiau gorfodol
- bod gwaith dysgwr neu berson ifanc yn ddilys, yn gyflawn, a/neu o’r safon sy’n ofynnol
Gwarchod cyfanrwydd dogfennau
Mae lleihau unrhyw risg i chi hefyd yn cynnwys lleihau risg ymyrryd â phapurau a reolir, deunyddiau arholi, gwaith dysgwyr a phobl ifanc, a chofnodion asesu i’r eithaf.
Ein cyngor yw:
- storiwch ddogfennau o’r fath yn ddiogel, mewn fformatau electronig a chopi caled, fel y’u darperir
- peidiwch â rhannu dogfennau a reolir, oni bai bod hynny’n ofynnol, neu’n cael ei ganiatáu gan ganllawiau gorfodol
- peidiwch â chaniatáu mynediad atynt, oni bai bod hynny’n ofynnol, neu’n cael ei ganiatáu gan ganllawiau gorfodol
- peidiwch â thrafod na datgelu unrhyw beth sy’n gyfrinachol yn gyhoeddus
Beth os bydd pethau’n mynd o chwith?
Ceisiwch gyngor a chymorth cyn gynted â phosibl gan eich rheolwr llinell, undeb llafur, neu o leiaf rywun rydych yn ymddiried ynddo os cewch eich hun yn unrhyw un o’r sefyllfaoedd canlynol:
- os na allwch ymdopi â’ch cyfrifoldebau a/neu’ch llwyth gwaith cysylltiedig ag arholi neu asesu
- os ydych yn ystyried cymryd camau a allai beryglu eich statws fel gweithiwr proffesiynol
- os ydych yn teimlo dan bwysau i dorri corneli wrth gwblhau unrhyw ran o ddogfen swyddogol, gan gynnwys llofnodion
- os ydych yn teimlo na allwch, neu na ddylech, lofnodi unrhyw fath o ddatganiad sy’n ymwneud ag arholiadau ac asesiadau
- os ydych yn credu y torrwyd y canllawiau gorfodol y disgwylir i chi a’ch cydweithwyr eu dilyn
- os ydych yn credu y gallai cyfanrwydd cofnodion cysylltiedig ag arholi neu asesu fod wedi cael ei beryglu
mae’n hollbwysig dweud wrth rywun am broblem yn gynnar.
Torri’r Cod
Mae’r isod yn enghreifftiau o achosion lle mae cofrestreion (o’r holl gategorïau cofrestreion) wedi bod yn destun achos disgyblu CGA, o ganlyniad i beidio â dilyn gweithdrefnau, er enghraifft wrth fesur cynnydd neu gynnal asesiadau allanol.
Ym mhob achos, torrwyd y Cod yn glir a rhoddwyd ystod o gosbau disgyblu i’r cofrestreion, gan gynnwys, mewn rhai achosion, eu gwahardd rhag ymarfer yn y gweithlu addysg yn y dyfodol.
Roedd cofrestrai wedi:
- caniatáu i ddysgwyr ailddrafftio atebion, a rhoi mwy o amser iddynt orffen profion safonol mewn amodau arholiad, gan dorri’r canllawiau
- methu lanlwytho gwaith cwrs erbyn y terfynau amser gofynnol, dyfarnu graddau, a sicrhau bod gwaith ar gael i’w gymedroli
- ffugio llofnodion dysgwyr ar ffurflenni yn hytrach na mynychu cyfarfodydd adolygu
- ‘colli’ gwaith cwrs yr oedd wedi mynd ag ef adref
- llofnodi datganiad, gan wybod bod yr ysgol wedi torri canllawiau’r bwrdd arholi yn y Prawf Darllen a Rhifedd Cenedlaethol
- ffugio llofnod ei reolwr llinell i gymeradwyo portffolios gwaith
- anfon canlyniadau arholiadau ymlaen at Lywodraeth Cymru, gan wybod eu bod wedi cael eu diwygio i wella’r graddau.
Cymorth ychwanegol
Rydym yn cynnig cyflwyniadau sy’n canolbwyntio ar briodoldeb i ymarfer. Os hoffech chi neu’ch cyflogwr drefnu un yn y gweithle, cysylltwch â ni.