Mae Llywodraeth Cymru eisiau penodi aelodau newydd i Gyngor y Gweithlu Addysg am gyfnod o 4 blynedd i ddechrau ar 1 Ebrill 2023.
CGA yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae aelodau’r Cyngor yn gyfrifol am lywodraethu CGA ac yn gweithio ar y cyd ag uwch swyddogion i osod cyfeiriad strategol y sefydliad.
Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ymrwymo hyd at 12 diwrnod y flwyddyn i fynychu cyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau a digwyddiadau eraill CGA. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys pecyn ymgeisio, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Tachwedd 2022.
Os hoffech gael gwybod mwy am CGA, darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol.
Os hoffech gael gwybod mwy am rôl aelod o Gyngor CGA, darllenwch y cwestiynau ac atebion gyda rhai o’n haelodau.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi,