Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi diweddariadau cyffrous i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), a gynlluniwyd i gefnogi ymarferwyr addysg yng Nghymru yn well i ddefnyddio eu safonau proffesiynol.
Rydym wedi datblygu offer rhyngweithiol newydd i’r PDP sy’n galluogi ymarferwyr i hunanasesu eu cynnydd yn unol â’u safonau proffesiynol. Byddant hefyd yn cael cipolwg bras ar eu cynnydd yn unol â’r safonau a fydd yn eu helpu i nodi eu meysydd cryfder a’u datblygiad â’u safonau proffesiynol.
Mae’r PDP yn rhoi lle i ymarferwyr gofnodi a myfyrio ar eu harfer a’u dysgu yng nghyd-destun y safonau proffesiynol canlynol:
- addysgu (ysgol)
- cynorthwyo addysgu (ysgol)
- arweinyddiaeth (ysgol)
- addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith
I gael mwy o wybodaeth am yr offer newydd, darllenwch ein blog.
Heb ddechrau defnyddio'ch PDP eto? Bydd ein canllaw byr yn eich helpu i osod eich cyfrif.