Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n archwilio sut y gellid uchafu effaith dysgu proffessiynol trwy ddefnyddio dull dysgu cyfunol ar ei gyfer, a sut gall hyn wella mynediad i brofiadau dysgu ymarferwyr addysg, ym mhob cwr o Gymru, wrth i’r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno.
Yn ogystal ag archwilio llenyddiaeth academaidd a phroffesiynol ddiweddar ynghylch dysgu cyfunol, siaradodd y tîm ymchwil â rhanddeiliaid ac arbenigwyr o Gymru a thu hwnt i’w cynorthwyo wrth greu darlun soffistigedig o sut y gellid defnyddio dulliau dysgu cyfunol i fuddio dysgwyr.
Mae’r adroddiad yn cynnig cyfres o argymhellion sy’n seiliedig ar y dair thema canlynol:
- Sefydlu seilwaith a diwylliannau dysgu proffesiynol sy'n ymgorffori dysgu cyfunol ac yn cynnig arlwy gyson i ymarferwyr ym mhob rhan o Gymru;
- Sefydlu system a gaiff ei harwain gan y dysgwyr, lle mae dysgwyr unigol yn cyfarwyddo eu dysgu proffesiynol eu hunain, ar sail cyfuniadau sy'n gweddu i'w gofynion dysgu unigol;
- Sefydlu dull cynaliadwy o ymdrin ag elfennau o'r cynnig dysgu proffesiynol, gan sicrhau eu bod yn rhan annatod o ddiwylliant ein system addysg ac yn gallu goroesi newidiadau gwleidyddol, ariannu a threfniadol.
Mae canfyddiadau’r adroddiad yn adeiladu ar ymchwil flaenorol a gynhaliwyd gan CGA yn 2018, sef un o 11 prosiect ymchwil a gomisynwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.
Dwedodd Rob Humphreys, un o aelodau’r o’r grŵp ymchwil: “Mae dysgu ar-lein hyblyg yn cynnig cyfleoedd enfawr i athrawon wella eu gwybodaeth broffesiynol a’u sgiliau. Caiff y fantais fwyaf i’n hathrawon – a’r myfyrwyr y maent yn eu haddysgu, wrth gwrs – ei gwireddu trwy’r cyfuniad priodol o ddysgu proffesiynol o bell, wyneb yn wyneb, a hyblygrwydd o ran ei ddylunio a’i chyflwyno.
"Canolbwyntia’r adroddiad hwn ar y cyfuniad hwnnw, gan ddechrau gyda phrofiadau ac ymarfer proffesiynol go iawn yr athrawon sydd yn ein hysgolion.”
Dwedodd yr Athro Ken Jones, prif ymchwilydd y prosiect: "Croesawn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i chwilio am ddulliau newydd ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae’r adroddiad hwn yn parhau i archwilio dulliau dysgu cyfunol gan dynnu ar brofiadau o wledydd eraill a phroffesiynau eraill.
“Croesawn awgrymiadau pellach ac enghreifftiau o ffyrdd y gellid addasu dysgu cyfunol a chefnogi holl broffesiynau yn ein hysgolion."
Darllenwch 'Y Dull Cenedlaethol ar Gyfer Dysgu Proffesiynol: Y Cyfuniad Dysgu Proffesiynol 2.0'