Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi rhyddhau'r bennod ddiweddaraf o'i bodlediad, Sgwrsio gyda CGA.
Yn y bennod arbennig hon i ddathlu Mis Pobl Ddu, mae Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn yn cael cwmni cynrychiolwyr o bob cwr o'r sector addysg yng Nghymru, i drafod y darlun presennol o ran amrywiaeth mewn addysg yng Nghymru. Mae'r grŵp yn trafod pwysigrwydd cynrychiolaeth a rolau delwedd, a'r camau sydd i'w cymryd i well amrywiaeth, gan yr arweinwyr hynny sy'n gweithio ar lawr gwlad.
Un o'r gwesteion oedd Aminur Rahman, oedd yn cynrychioli Addysgwyr Cymru. Mae Addysgwyr Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a'i gyflawni gan CGA, yn cynnwys nifer o wasanaethau sy'n dod â chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a swyddi yn sector addysg Cymru ynghyd mewn un lleoliad hawdd.
Ar ôl y recordiad, dywedodd Aminur "Rwy'n cwrdd ag unigolion bob dydd sydd â diddordeb yn ymuno â'r gweithlu addysg, ond yn teimlo nad oes lle iddyn nhw - oherwydd eu diwylliant, ethnigrwydd, cefndir, neu brofiadau blaenorol. Mae angen modelau rôl mwy amrywiol i galonogi'r bobl hyn a dangos iddynt beth sy'n bosibl."
Gan weithio gyda sefydliadau partner, mae Addysgwyr Cymru yn cynllunio a thargedu gweithgarwch recriwtio i ddenu mwy o bobl i'r sector o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Mae gwesteion eraill y bennod yn cynnwys Chantelle Haughton a Leon Andrews (DARPL), Yusuf Ibrahim (Coleg Caerdydd a'r Fro), a Loren Henry (Urban Circle Casnewydd).
Mae ‘Sgwrsio gyda CGA’ bellach ar gael ar wefan CGA, neu eich darparwr podlediadau o ddewis.
Mae dolenni i gefnogaeth a'r adnoddau yn y bennod ar gael yn nodiadau sioe'r podlediad.