Mae Plant y Cymoedd wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol am eu gwaith ieuenctid o ansawdd da, gan dderbyn y Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid, a weinyddir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn wobr genedlaethol sy’n cefnogi ac yn cydnabod gwelliant mewn safonau darparu, ymarfer a pherfformiad gan sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau gwaith ieuenctid. Er mwyn derbyn yr achrediad, mae’n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid asesu eu hunain yn erbyn cyfres o safonau ansawdd a chael asesiad allanol llwyddiannus.
I gyflawni’r Marc Ansawdd Efydd, roedd yn ofynnol i Blant y Cymoedd ddangos eu bod yn cynnwys y sylfeini ar gyfer gwaith ieuenctid o ansawdd uchel wrth ddarparu eu gwasanaeth. Mae hynny’n cynnwys ymgsylltu â phobl ifanc wrth ffurfio eu gwasanaeth, meddu ar ddealltwriaeth dda o anghenion y bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw, a sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ar waith i ddarparu gwasanaeth diogel.
Dywedodd Elise Stewart, Prif Weithredwr Plant y Cymoedd, "Mae Plant y Cymoedd yn falch iawn o fod wedi cyflawni’r Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu’r ymrwymiad i ansawdd gwaith ieuenctid yn ein sefydliad, a gwerth gwaith ieuenctid i bobl ifanc a’n cymunedau."
Mae Plant y Cymoedd yn cynnig dewisiadau amgen cymhellol, mynediad agored sydd ar gael am ddim i bobl ifanc, y mae llawer ohonynt yn wynebu pwysau negyddol gan gyfoedion i ddefnyddio llwybrau dianc (fel cyffuriau ac alcohol), ac sydd mewn perygl o gefnu ar yr ysgol.
Dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn, “Hoffwn longyfarch Plant y Cymoedd ar dderbyn y Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid.
“Mae darpariaethau, fel y rhai a gynigir gan Blant y Cymoedd, yn cynnig llwybr amgen pwysig i lawer o bobl ifanc yng Nghymru. Rwy’n falch o weld bod eu gwaith caled a’u hymroddiad i gynorthwyo pobl ifanc wedi cael eu cydnabod”.
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion pa sefydliadau sy’n dal y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid a sut gall eich sefydliad wneud cais i gael ei achredu, ymwelwch â gwefan CGA.