Dengys data newydd a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) fod mwy o staff cefnogi dysgu nag athrawon cofrestredig yn gweithio mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
O fwy na 80,000 o bobl sy’n gymwys i weithio mewn ysgolion, addysg bellach, lleoliadau dysgu yn y gweithle a gwaith ieuenctid, mae dros 37,325 ohonynt wedi’u cofrestru i weithio mewn swyddi cefnogi mewn ysgolion o gymharu â 35,545 mewn swyddi athrawon ysgol. Amlyga hyn natur newidiol yr ystafell ddosbarth yng Nghymru a’r ffordd mae ein plant yn cael eu haddysgu.
Dengys yr ystadegau fod y gweithlu addysg yn cynnwys menywod yn bennaf. Mae menywod yn cynrychioli 80% o staff ysgol a dros 60% mewn lleoliadau eraill.
Mae proffil oedran y gweithlu mewn ysgolion ac ym maes gwaith ieuenctid yn gytbwys, gyda thros dri chwarter o staff dan 50 oed. Mewn cyferbyniad â hynny, mae’r gweithlu addysg bellach a dysgu yn y gweithle yn hŷn, gyda thros 45% o ddarlithwyr coleg cofrestredig yn 50 oed neu’n hŷn.
Mae nifer yr athrawon ysgol (33.3%) sy’n medru’r Gymraeg yn uwch na ffigurau’r cyfrifiad (19%). Fodd bynnag, mae ffigurau mewn colegau addysg bellach a dysgu yn y gweithle islaw ffigurau’r cyfrifiad. Amlyga hyn yr heriau sydd ar y gorwel wrth i Gymru anelu at gyflawni’r uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA:
“Dyma’r tro cyntaf i wybodaeth ymestynnol o’r fath am weithlu addysg cyfan Cymru fod ar gael. Mae’r data’n codi cwestiynau diddorol i gwneuthwyr polisi a chynllunio’r gweithlu wrth i ni symud tuag at gwricwlwm newydd, ffocws pellach ar y Gymraeg, a diwygiadau mawr eraill.”