Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi canfyddiadau arolwg o 78,000 o weithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru.
Ceisiodd yr arolwg, a gynhaliwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chyflogwyr, farn staff mewn ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a gwaith ieuenctid.
Canfu'r astudiaeth, a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a Mai eleni, fod optimistiaeth ymhlith ymatebwyr ynghylch eu dyfodol yn y proffesiwn, eu datblygiad proffesiynol eu hunain, a phwysigrwydd parhaus dysgu ar-lein.
I'r mwyafrif o ymarferwyr, mae datblygu gyrfa a dilyniant yn brif flaenoriaeth. Dywedodd dros draean eu bod yn bwriadu parhau i ddatblygu eu harfer dros y blynyddoedd nesaf a symud ymlaen i rolau uwch.
Gwelodd dros 60% o ymarferwyr fanteision parhau â dysgu cyfunol neu ddigidol ar ôl y pandemig, gyda llawer yn teimlo'n hyderus yn eu gallu i ddarparu hyn gyda hyfforddiant, cefnogaeth ac adnoddau pellach. Er bod niferoedd uchel (tua 70%) yn teimlo bod COVID-19 wedi effeithio ar eu lles dros y 12 mis diwethaf, roeddent yn credu eu bod wedi derbyn cefnogaeth dda gan eu cyflogwyr yn ystod y cyfnod hwn ac yn teimlo'n ddiogel yn eu swyddi.
Fodd bynnag, o'r 10,633 o ymatebwyr, nododd llawer lwyth gwaith uchel, gormod o waith papur a phryderon ynghylch eu parodrwydd ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Roedd pryderon ynghylch baich gwaith yn fwyaf nodedig i staff addysgu mewn ysgolion ac addysg bellach, gyda 65% a 70% yn ôl eu trefn yn datgan nad oeddent yn gallu rheoli eu baich gwaith presennol. Nid oedd gan staff cymorth na'r rheini mewn dysgu seiliedig ar waith a gwaith ieuenctid yr un lefel o bryder.
Nid yw llawer o athrawon ac arweinwyr ysgolion yn teimlo'n barod i gyflwyno’r cwricwlwm newydd, sydd i fod i gael ei gyflwyno yn 2022. Cytunodd tua hanner (51.1%) o arweinwyr ysgolion eu bod yn teimlo'n barod i gyflwyno’r cwricwlwm newydd, o'i gymharu â thraean (33.3%) o athrawon ysgol.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg ac Iaith Gymraeg:
“Rwy’n ddiolchgar i CGA am eu gwaith ar yr arolwg hwn, ac rwy’n arbennig o falch o nodi cyfran uchel yr ymarferwyr sy’n teimlo bod eu gweithleoedd wedi eu cefnogi trwy gydol y pandemig.
“Rydym yn cydnabod bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb ym myd addysg, ac mae'n dda gweld lefel yr hyder sydd gan staff yn y gefnogaeth a ddarperir gan eu cyflogwyr - yn enwedig wrth inni fynd i mewn i'r flwyddyn ysgol newydd.
“Yn ddiweddar fe gyhoeddon fersiwn ni’r ddogfen Y Daith i 2022 ar ei newydd wedd sy'n nodi sut y bydd y sector yn gweithio gyda'i gilydd i gynorthwyo ysgolion i gyflawni'r cwricwlwm newydd yn hyderus, ac rydym yn parhau i weithio gyda'r sector ledled Cymru i gefnogi staff a dysgwyr."
Ychwanegodd David Evans, Ysgrifennydd Cymru yr Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru:
“Roedd NEU Cymru yn gefnogol o’r arolwg gan fod angen i ni ofyn cwestiynau allweddol i bawb yn y proffesiwn yn barhaus, os ydym am sicrhau dealltwriaeth glir o’r pwysau y maent yn eu hwynebu bob dydd.
"Mae darpariaeth addysg, a disgwyliadau ar staff, yn newid yn gyson. Rhaid i ni wybod beth yw'r disgwyliadau hynny, a sut y gallwn wella materion er budd pawb mewn addysg, gan gynnwys dysgwyr yng Nghymru.
"Mae baich gwaith, lles, ffyrdd newydd o ddysgu, gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig, dysgu proffesiynol a rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith yn faterion arwyddocaol i addysg yng Nghymru. Y peth pwysicaf nawr yw’r ffordd rydym ni'n ymateb i ganfyddiadau'r arolwg ac mae NEU Cymru yn edrych ymlaen i fod yn rhan o'r ystyriaethau hynny.”
Dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA:
“Mae'r canlyniadau hyn yn codi'r caead ar lawer o'r heriau proffesiynol sy'n wynebu staff ar draws yr holl weithlu addysg yng Nghymru. Rydym yn annog y llywodraeth a llunwyr polisi allweddol i gymryd sylw o'r hyn y mae'r proffesiwn wedi'i ddweud.”
Darllen adroddiad yr arolwg a dadansoddiad o sylwadau testun agored