Mae diweddariad i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) bellach yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros sut rydych chi’n rhyngweithio â’ch safonau proffesiynol. Gyda’r datblygiad diweddaraf hwn, gallwch ddewis mwyhau a gweld eich tystiolaeth, dysgu a myfyrdodau ar gyfer cyfnod penodol, gan ei gwneud yn haws gweld eich cynnydd ar adegau neu gerrig milltir penodol yn eich gyrfa.
Mae’r PDP yn rhoi lle i chi fyfyrio ar eich ymarfer a’ch dysgu, yng nghyd-destun eich safonau proffesiynol. Mae eich llyfr gwaith safonau yn dod â’ch holl dystiolaeth ddysgu ynghyd, gan roi cynrychiolaeth weledol i chi o’ch taith broffesiynol. P’un a ydych chi’n bwriadu dangos eich cyflawniadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cael eich adolygiad o berfformiad gyda’ch rheolwr, neu’ch bod yn dechrau rôl newydd ac eisiau dechrau gyda llyfr gwaith safonau newydd, bydd yr offeryn hidlo dyddiad newydd yn eich galluogi i wneud hyn.
Rydym ni hyd yn oed wedi creu canllaw cyflym i ddangos i chi sut mae’r cyfan yn gweithio.
Mae hon yn un yn unig o blith llawer o nodweddion rydym ni wedi eu cyflwyno dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i sicrhau bod y PDP yn parhau i ddiwallu’ch anghenion fel ymarferydd addysg.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu adborth ar yr offer hidlo dyddiad newydd, neu yr hoffech chi drefnu arddangosiad o’r PDP ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â ni.
Hefyd, mae gennym ganllaw bach defnyddiol a fydd yn helpu unrhyw un sy’n newydd i’r PDP i greu eich cyfrif.