Mae grŵp ymchwil, sy'n cynnwys cadeiryddion presennol a blaenorol bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (ITEA) Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), wedi cael eu cyhoeddi’n gyd-enillwyr Gwobr Effaith ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd fawreddog Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA).
Dyfarnwyd y wobr i Dr Hazel Hagger (cadeirydd presennol bwrdd AAGA) a'r Athro John Furlong OBE (awdur Athrawon Addysgu Yfory a chyn Gynghorydd Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Llywodraeth Cymru), ochr yn ochr â'u cydweithwyr Katherine Burn a Trevor Mutton, o grŵp Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon Prifysgol Rhydychen.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae eu hymchwil ar addysg athrawon a dysgu proffesiynol wedi dylanwadu'n drwm ar ailwampio AGA yn radical yng Nghymru, gan helpu ffurfio profiadau newydd-ddyfodiaid i'r proffesiwn. Mae'r diwygiadau wedi cynnwys cyflwyno meini prawf achredu newydd, a'r gofyniad ar bob ysgol a phrifysgol sy'n ymwneud â darpariaeth AGA i roi llawer mwy o bwyslais ar gynyddu'r capasiti i gynnal a defnyddio ymchwil. Wrth gyhoeddi'r newyddion, nododd gwefan BERA fod y grŵp 'wedi dangos effaith sylweddol a pharhaus ar eu hymchwil a'u harferion yn y gymuned addysg ehangach'.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Hazel Hagger, "Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru i alluogi datblygu system AGA genedlaethol ddiwygiedig yn seiliedig ar ymchwil yn hytrach nag ideoleg".
Dywedodd y cyd-dderbynnydd, John Furlong "Mae aelodau o'r tîm ymchwil wedi treulio blynyddoedd lawer yn astudio'r ffordd orau o gefnogi myfyrwyr wrth ddysgu i ddod yn athrawon effeithiol eu hunain.
"Rydym ni gyd wrth ein bodd bod BERA wedi cydnabod arwyddocâd ein gwaith, fodd bynnag, yr arwyr go iawn yma yw'r prifysgolion a’r cannoedd o ysgolion ledled Cymru sydd wedi manteisio ar y syniadau hyn a'u defnyddio nhw eu hunain".
Wrth longyfarch y grŵp, dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA "Mae CGA yn croesawu'r anrhydedd hwn yn fawr. Mae'n gydnabyddiaeth o ymchwil o’r radd flaenaf y bydd athrawon, ysgolion a dysgwyr newydd yng Nghymru yn elwa ohoni am flynyddoedd lawer i ddod".
Roedd y grŵp yn gyd-enillwyr y wobr ochr yn ochr â Chanolfan Amddiffyn Plant (CCP) Prifysgol Caint am eu hymchwil i 'Cadw Plant yn Ddiogel: Hyrwyddo Addysgeg, Ymwybyddiaeth ac Ymarfer Amddiffyn Plant drwy Efelychiadau Arloesol'. I gael rhagor o wybodaeth am AGA yng Nghymru, ewch i wefan CGA.