Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023.
Mae’r adroddiad, a gyflwynwyd gerbron y Senedd ar 9 Awst 2023, yn amlinellu cynnydd CGA wrth gyflawni ei amcanion strategol, ac yn cynnwys cyfrifon manwl ac archwiliedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23.
Mae uchafbwyntiau o adroddiad eleni’n cynnwys:
- cyflawni ein swyddogaeth graidd yn effeithiol i reoleiddio er budd y cyhoedd gyda mwy nag 88,000 o unigolion ar ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg
- cyhoeddi ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig, sy’n gosod y safonau a ddisgwylir gan y rhai sydd wedi’u cofrestru gyda ni ac y bwriedir iddo arwain eu barn a’u penderfyniadau
- rhyddhau amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo cofrestreion i gydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys canllawiau arfer da a digwyddiadau datblygiad proffesiynol
- darparu mwy na 340 o sesiynau cymorth a chyflwyniadau i randdeiliaid
- parhau i dyfu brand, gwefan, a gwasanaeth eirioli Addysgwyr Cymru i gefnogi blaenoriaethau recriwtio a chadw yng Nghymru
- derbyn y farn archwilio uchaf, sef sicrwydd sylweddol heb argymhellion, ar gyfer pob un o’r pum adolygiad archwilio mewnol a gwblhawyd yn 2022-23
Ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA, “Rwy’n falch o allu rhannu ein cyflawniadau dros y 12 mis diwethaf gyda chi i gyd.
“Mae’r sector addysg yng Nghymru yn parhau i esblygu a thyfu, gan gyflwyno cyfleoedd a heriau newydd. Mae’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn dangos sut gallwn, trwy fod yn rheoleiddiwr proffesiynol ac annibynnol yr ymddiriedir ynddo, gefnogi’r gweithlu i gyflawni’r safonau uchaf o broffesiynoldeb”.
Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23 ochr yn ochr ag Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2022-23 ac Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2022-23 .
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23
Trosolwg: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23