Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi rhyddhau'r ail bennod o'i bodlediad, Sgwrsio gyda CGA.
Yn y bennod hon, Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA yn cael cwmni gan gynrychiolwyr o elusen iechyd rhywiol Brook, ac elusennau plant Barnardo’s a'r NSPCC i ateb cwestiynau oedd dros ben o ddigwyddiad Dosbarth meistr CGA "Dy'n ni ddim yn dweud wrth yr athrawon": deall a mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysg.
Trwy gydol y drafodaeth, mae'r panelwyr yn trafod pynciau gan gynnwys bwlio ac aflonyddu ar-lein, arfer gorau ar gyfer ysgolion, a siarad gyda rhieni/gwarcheidwaid am y cwricwlwm addysg rhyw a pherthnasoedd.
Gan siarad am y bennod, dywedodd Hayden "Mae hwn yn fater sy'n effeithio’r sector addysg yng Nghymru, ac yn fyd-eang. Mae'r podlediad yma, sy'n cynnwys mewnwelediadau ac anodau gwerthfawr gan Kelly, Elinor a Sharron, yn un ffordd y gallwn helpu'n cofrestreion ddelio gyda materion o'r fath.
"Ry'n ni hefyd yn datblygu canllaw arfer da ar y pwnc, fydd yn rhoi mwy o gyngor a chanllawiau i'n cofrestreion ar rwystro, ymateb i, a chofnodi achosion o gamdriniaeth, ecsbloetio, ac ymddygiad rhywiol niweidiol gan gyfoedion."
Mae'r bennod, er ei bod hi wedi ei hanelu at gofrestreion CGA, mae hefyd yn ddefnyddiol i rieni/gwarcheidwad sydd am ddeall beth allan nhw wneud i rwystro ac ymateb i achosion sy'n ymwneud â'u plant, yn ogystal â llywodraethwyr sydd am gefnogi cydweithwyr yn eu hysgolion.
Mae ‘Sgwrsio gyda CGA’ bellach ar gael ar wefan CGA, neu eich darparwr podlediadau o ddewis.
Dylech fod yn ymwybodol fod y bennod hon yn trafod materion allai fod yn sensitif. Dylech ddarllen nodiadau'r bennod i gael mwy o wybodaeth, a dolenni at ganllawiau a chefnogaeth.