Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio ei bodlediad newydd heddiw (28 Mehefin 2023) - Sgwrsio gyda CGA.
Ym mhob pennod, byddwn CGA yn cael cwmni nifer o westeion i dwrio'n ddyfnach i bynciau sy'n bwysig i gofrestreion CGA. O arloesi, i ddatblygiad proffesiynol, newidiadau polisi, i ddyfodol addysg, bydd y podlediad newydd yn rhoi mewnwelediadau pryfoclyd a syniadau ymarferol i helpu cofrestreion yn eu hymarfer o ddydd i ddydd.
Mae'r bennod gyntaf, gyhoeddwyd fel rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid, yn canolbwyntio ar y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Bydd ein cyflwynydd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA, yn cael cwmni Andrew Borsden, Swyddog Datblygu Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid (CGA), Bethan Wilson (The Prince's Trust Cymru), a Bethan Allan (Cyngor Sir Casnewydd), drafod y Marc Ansawdd, i drafod hanes y Marc Ansawdd, buddion ymgeisio amdano, a gwybodaeth am sut gall sefydliadau fod yn rhan ohono.
Gan siarad am lansio'r podlediad dywedodd Hayden, "Ry'n ni gyd wedi gweld cynnydd poblogrwydd podlediadau dros y blynyddoedd diwethaf.
"Fel rheoleiddir, proffesiynol, annibynnol y proffesiynau addysg yng Nghymru, mae'n bwysig ein bod ni'n cadw mewn cyswllt gyda'n cofrestreion, gan ddefnyddio'r dulliau sy'n fwyaf hygyrch a chyfleus iddyn nhw.
"Bydd ein podlediad yn cynnwys trafodaethau bywiog yn ogystal â rhannu profiadau, syniadau a safbwyntiau ar dirwedd y gweithlu addysg yn Nghymru sy'n esblygu drwy'r amser."
Bydd pennod nesaf CGA yn plymio'n ddyfnach i bwnc Dosbarth meistr diweddar CGA 'Dy'n ni ddim yn dweud wrth yr athrawon': deall a mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysg a bydd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda phanelwyr o'r digwyddiad.
Peidiwch â cholli allan - tanysgrifiwch nawr gyda'ch darparwr podlediadau, neu chwiliwch am 'Sgwrsio gyda CGA'.