Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi diweddaru eu canllawiau arfer da, i adlewyrchu'r arferion gorau a'r tueddiadau diweddaraf o bob cwr o'r tirlun addysg.
Maent yn cynnig canllawiau i gofrestreion ar nifer o faterion, o fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol gan gyfoedion a mynd i'r afael â hiliaeth, i berthnasau gwaith cadarnhaol, defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol, ac iechyd meddwl a lles.
Er nad ydynt yn ganllawiau rheoleiddiol na gorfodol, mae pob dogfen yn cynnwys senarios sydd yn ceisio helpu cofrestreion i feddwl am, ac archwilio materion allai godi.
Dywedodd David Browne, Cyfarwyddwr Rheoleiddio CGA, "Fel rheoleiddir annibynnol, proffesiynol, mae'n bwysig bod y wybodaeth ry'n ni'n ei darparu'n gywir a chyfredol.
"Mae'r senarios a'r esiamplau yn y canllawiau yn dod yn syth o'n profiadau o waith achos, fel ei fod mor berthnasol â phosibl ar gyfer ein holl gofrestreion amrywiol."
Mae'r canllawiau wedi eu datblygu i ategu'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy'n gosod y safon a ddisgwylir gan gofrestreion.