Mae tystiolaeth dda am fuddion gweithlu addysg amrywiol. Mae cynrychiolaeth yn y gweithlu addysg yn darparu modelau rôl i ddysgwyr a phobl ifanc a gall helpu i wella eu hymdeimlad o berthyn a hunaniaeth. Fodd bynnag, mae diffyg amrywiaeth yn y gweithlu ysgolion wedi bod yn broblem barhaus yng Nghymru, gan nad yw’r gweithlu addysg ar hyn o bryd yn adlewyrchu’r gymdeithas amrywiol rydym ni’n byw ynddi.
Ers 2019, rydym wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch amrywiaeth a chynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig ymysg athrawon a chynorthwywyr addysgu. Dangosodd ein hadroddiad cyntaf ar gynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu ysgolion, a gwblhawyd y llynedd, fod nifer yr athrawon a chynorthwywyr addysgu o gymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, cyfyngedig fu’r cynnydd hwn ac, yn nhermau amrywiaeth ethnig, nid yw’r gweithlu ysgolion wedi cyd-gerdded â’r newid yn nemograffeg Cymru.
Hefyd cyflwynodd adroddiad 2020 atebion polisi posibl a allai helpu i wneud y gweithlu ysgolion yng Nghymru yn fwy amrywiol. Roedd wedi’i seilio ar ymchwil yn ystyried strategaethau oedd wedi cael eu defnyddio i wneud y gweithlu ysgolion yn fwy amrywiol mewn lleoedd eraill, ac amrywiaeth ehangach o fentrau oedd wedi cael eu defnyddio mewn proffesiynau eraill.
Adroddiad terfynol ac argymhellion i Lywodraeth Cymru – haf 2021
Ers cyhoeddi ein hadroddiad cyntaf ym mis Mai 2020, rydym wedi cyfarfod ag ymarferwyr, rhanddeiliaid a sefydliadau sy’n cynrychioli cymunedau amrywiol i gasglu adborth ar y materion a godwyd.
Rydym hefyd wedi cynnal cyfres o grwpiau ffocws gydag ymarferwyr Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a rhanddeiliaid allweddol eraill er mwyn deall eu profiadau byw o’r system addysg yng Nghymru, a chlywed eu meddyliau ynghylch yr hyn mae angen ei wneud er mwyn gwneud y gweithlu ysgolion yn fwy amrywiol.
Mae'r darlun a gawsom o wrando ar bobl eraill wedi ein helpu i ddatblygu ein hargymhellion ymhellach. Cyflwynasom yr argymhellion hynny i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021, ac maent wedi llywio chynllun gweithredu ar wneud y gweithlu ysgolion yng Nghymru yn fwy amrywiol yn ethnig. Darllen ein hadroddiad terfynol ar gynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu ysgolion yng Nghymru
Dysgu mwy am ein gwaith ymchwil ynghylch cynyddu amrywiaeth yn y gweithlu ysgolion