Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mewn partneriaeth ag ETS Cymru, i ddatblygu a chyflwyno’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid cydnabyddedig cenedlaethol yng Nghymru, a hynny tan fis Ionawr 2023.
Mae arwydd rhagoriaeth y Marc Ansawdd yn sicrhau pobl ifanc, eu rhieni a’u gwarcheidwaid, cyllidwyr, sefydliadau partner a sefydliadau eraill am ansawdd uchel darpariaeth gwaith ieuenctid.
Meddai Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA: “Yng Nghymru, rydym yn mynd trwy gyfnod o ddiwygio mawr ym myd addysg, ac mae darpariaeth gwaith ieuenctid o ansawdd uchel yn chwarae rhan hanfodol yn hynny.
“Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r Marc Ansawdd ochr yn ochr ag ETS Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn cyflwyno’r cymorth priodol i bobl ifanc yng Nghymru, i wella’u cyfleoedd mewn bywyd.”
Meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC: "Mae’r Marc Ansawdd yn adnodd pwysig i helpu sefydliadau gwaith ieuenctid wir godi’r safon ar gyfer y gwaith pwysig a wnânt.
“Edrychaf ymlaen at weld y contract newydd yn adeiladu ar fomentwm y Marc Ansawdd llwyddiannus a sicrhau bod hyn yn adlewyrchu’r weledigaeth a amlinellir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru."
Ychwanegodd Cadeirydd ETS Cymru, Steve Drowley: “Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yw un o brif sylfeini gwaith o ansawdd da gyda phobl ifanc.
“Rydym yn falch o fod yn rhan o’r broses o sicrhau bod gan bobl ifanc lais, eu bod yn cael eu cynorthwyo’n gywir gan weithwyr ieuenctid hyfforddedig a chymwys, a’u bod yn elwa o amrywiaeth fawr o gyfleoedd trwy wasanaethau gwaith ieuenctid a gynhelir a rhai gwirfoddol.”
Er 2015, mae 17 sefydliad gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi cyflawni’r Marc Ansawdd. Fel y corff dyfarnu newydd, bydd CGA yn gweithio gyda’r sefydliadau hyn a’r sector cyfan i ddatblygu a thyfu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Dysgwch fwy am y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.