Bydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn parhau i gyflwyno a datblygu’r ‘Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru’, a gydnabyddir yn genedlaethol, tan fis Ionawr 2024.
Mae’r Marc Ansawdd, a gomisiynwyd gan Llywodraeth Cymru, wedi cael ei weinyddu gan CGA ers mis Ionawr 2019. O gael eu hachredu, mae sefydliadau’n rhoi sicrwydd i bobl ifanc, eu rhieni, eu gwarcheidwaid, cyllidwyr, sefydliadau partner ac eraill eu bod yn cyflwyno darpariaeth gwaith ieuenctid o ansawdd uchel.
Un o’r sefydliadau ieuenctid hynny sydd wedi’u hachredu yw Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, sydd wedi ennill y Marciau Ansawdd Arian ac Aur. Meddai David Williams, Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen “Roedd ennill y Marc Ansawdd Aur eleni wir yn anrhydedd, gan gydnabod y gwaith rhagorol sy’n digwydd o fewn Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen.
“Roedd mynd trwy broses hunanwerthuso ac arolygu drylwyr mor werthfawr, gan ei bod wedi cadarnhau’r safonau proffesiynol y mae’n rhaid eu cyflawni i ennill y dyfarniad.
“O gyflwyno ein hunanasesiad, i’r ymweliadau, yna dyfarnu’r Marc yn y pen draw, roedd y tîm asesu yn ymddiddori ac yn herio i’r un graddau. Roedd y broses gyfan yn fuddiol tu hwnt ac mae’n dangos ansawdd uchel y gwasanaeth gaiff ein pobl ifanc”.
Ers i CGA ymgymryd â’r gwaith o gyflwyno’r Marc Ansawdd, mae nifer deiliaid y marc ansawdd ar hyd a lled Cymru wedi tyfu 75% a bu cynnydd o 50% hefyd yn nifer aseswyr y sector gwaith ieuenctid.
Meddai Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA, “Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi gweld y Marc Ansawdd yn tyfu ac yn datblygu’n farc rhagoriaeth a sicrwydd a gydnabyddir yn genedlaethol.
“Edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu’r Marc Ansawdd, gan achredu mwy o’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid eithriadol sy’n cael ei chynnig ar hyd a lled Cymru.”
Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, "Mae gwaith ieuenctid yn rhoi amgylchedd i bobl ifanc sy'n eu galluogi i ymlacio a chael hwyl, dysgu sgiliau a chael cymwysterau, a siarad gydag oedolion y maent yn ymddiried ynddynt a'u cyfoedion am faterion sy'n effeithio arnynt. Mae ganddo rôl sylweddol yn eu helpu i ddatblygu eu hunanhyder a'u gwydnwch personol yn ogystal â'u helpu i ddeall a chael mynediad at eu hawliau.
"Mae sefydliadu gwaith ieuenctid gwych yn darparu hyn ym mhob cwr o Gymru, ac mae'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, yn fodd i ni helpu sefydliadau feincnodi eu gwasanaethau yn erbyn safonau, ac amlygu meysydd arfer da, y gellid eu rhannu gydag eraill i wella ansawdd y gwasanaethau.
"Rwy'n falch o fod wedi gallu estyn y contract Marc Ansawdd presennol am flwyddyn arall, i allu gweithredu'r argymhellion sydd gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid i gyflawni ein hamcan o greu model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru".
Dysgwch ragor am y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.