Heddiw, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei ganllaw arfer da diweddaraf ar gyfer cynnal ffiniau proffesiynol gyda dysgwyr.
Bwriad y canllaw yw helpu cofrestreion wrth reoli a chynnal perthnasau proffesiynol cadarnhaol gyda dysgwyr. Mae’r canllaw yn ymdrin ag ymarfer da yn seiliedig ar yr egwyddorion sydd wedi’u hamlinellu yng Nghod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA a ddiwygiwyd yn ddiweddar.
Dwedodd Liz Brimble, Cyfarwyddwr Cymwysterau, Cofrestru a Phriodoldeb i Ymarfer CGA: “Mae’n falch gennym ychwanegu’r canllaw pwysig hwn i’r deunyddiau ategol sydd eisioes ar gael i’n cofrestreion i’w helpu wrth fyfyrio ar eu cyfrifoldebau proffesiynol ac i’w cynorthwyo wrth gynnal yr egwyddorion sydd wedi’u hamlinellu yn y Cod.”
Yn y pedwerydd mewn cyfres o ganllawiau arfer da, mae’r canllaw hefyd yn codi ymwybyddiaeth cofrestreion o wahanol ffyrdd o dorri ffiniau proffesiynol ac yn enghreifftio achosion bywyd go iawn sydd wedi cael eu cyfeirio i CGA i’w hymchwilio.
Darllenwch y Canllaw Arfer Da ar gyfer Cynnal Ffiniau Proffesiynol gyda Dysgwyr [hyperlink].
The EWC runs regular training and awareness sessions on topics, such as professional responsibilities and ethics. If you are interested in arranging a session, please