O 1 Ionawr, gall unrhyw athro ysgol a gymhwysodd y tu allan i Gymru ond sydd eisiau gweithio yng Nghymru ymgeisio i gael ei gymwysterau wedi'u cydnabod gan CGA. Mae hyn oherwydd newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd yn dilyn diwedd cyfnod trawsnewid Brexit.
Mae'n rhaid i holl athrawon ysgol sy'n gweithio, neu sydd am weithio yng Nghymru gael eu cydnabod fel athrawon ysgol a bod wedi'u cofrestru gyda ni.