Heddiw, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022.
Mae’r ddogfen, a osodwyd gerbron y Senedd, yn manylu ar y gwaith a wnaed gan CGA trwy gydol blwyddyn ariannol 2021-22 ac yn amlinellu ei gyflawniadau allweddol.
Er gwaethaf effaith barhaus pandemig COVID-19, parhaodd CGA i weithredu yn ôl safon uchel, gan gyflawni ei rôl fel rheoleiddiwr annibynnol yn diogelu dysgwyr er budd rhieni/gwarcheidwaid a’r cyhoedd.
Mae uchafbwyntiau yn yr adroddiad eleni yn cynnwys:
- y nifer uchaf o geisiadau i gofrestru yn ein hanes ac, yn ei dro, cynnydd yn y nifer sydd wedi cofrestru gyda ni, yn enwedig ymhlith staff cymorth dysgu
- arwain yr Arolwg Cenedlaethol o’r Gweithlu Addysg yng Nghymru, gan ddenu dros 10,000 o ymatebion
- lansio Addysgwyr Cymru, sef platfform cenedlaethol newydd i annog recriwtio pobl i fyd addysg yng Nghymru
- cael y farn archwilio uchaf, sef sicrwydd sylweddol a dim argymhellion ar gyfer pob un o’r pum adolygiad archwilio mewnol a gwblhawyd yn 2021-22
Mae dau adroddiad pellach a gyhoeddir heddiw yn ategu Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22, sef Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2021-22 ac Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2021-22.
2021-22 yn ôl niferoedd
- 82,159 o ymarferwyr addysg wedi’u cofrestru
- 14,964 o geisiadau newydd am gofrestru wedi’u prosesu
- 1,407 o dystysgrifau Statws Athro Cymwysedig (SAC) wedi’u rhoi
- 4,000 o athrawon newydd gymhwyso (ANG) a’u mentoriaid wedi’u cynorthwyo yn rhan o’r rhaglen Sefydlu statudol
- 128,000 o wiriadau ar-lein wedi’u gwneud gan gyflogwyr a’r cyhoedd
- 269 o achosion Priodoldeb i Ymarfer wedi’u cwblhau
- Dros 14,000 o gopïau o’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi’u lawrlwytho
- Dros 450 o gyflwyniadau a sesiynau cymorth wedi’u darparu i fyfyrwyr, cofrestreion, cyflogwyr a rhanddeiliaid
- 35,000 o ddefnyddwyr cofrestredig y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)