CGA / EWC

About us banner
Cynllun Strategol 2025-28
Cynllun Strategol 2025-28

Lawrlwythwch ein Cynllun Strategol 2025-28

Lawrlwythwch ein Cynllun Strategol 2025-28 - cynllun ar dudalen

Rhagair gan ein Prif Weithredwr a’n Cadeirydd

Mae Cynllun Strategol yn disgrifio sut byddwn yn cyflwyno ein swyddogaethau statudol craidd, rhwng 2025 a 2028, gan weithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru.

Mae’n rhaid mai cofrestru a rheoleiddio cadarn yw ein blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu mai dim ond y rhai sy’n addas ac yn gymwys i ymarfer, yn ein barn ni, fydd yn ymuno â’r Gofrestr gyhoeddus o 90,000 a mwy o weithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru. Ar ôl cofrestru, byddwn yn helpu ein cofrestreion i gadw at y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ac, wrth wneud hynny, arddangos safonau proffesiynol uchel trwy eu gwaith a’u hymddygiadau. Lle codir pryderon am gofrestreion, byddwn yn ymchwilio i’w priodoldeb i ymarfer ac, os bydd angen, yn cymryd camau priodol i amddiffyn y cyhoedd, diogelu dysgwyr a phobl ifanc, a chynnal uniondeb y proffesiwn.

Byddwn yn parhau i sicrhau ansawdd y rhaglenni mynediad sy’n arwain at statws athro cymwysedig yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn yn cynnig hyder i ddysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid a’r cyhoedd am ragoriaeth y genhedlaeth nesaf sy’n ymuno â’r gweithlu.

Fodd bynnag, fel cyngor gweithlu, nid yw ein cyfrifoldebau statudol yn gyfan gwbl reoleiddiol eu natur. Bydd CGA yn gweithredu ochr yn ochr â’r llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i hybu gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg yng Nghymru a darparu cyngor cadarn, seiliedig ar dystiolaeth, ar faterion y gweithlu a pholisi addysg ehangach. I wneud hyn, rhaid i ni ddefnyddio’r wybodaeth unigryw rydym yn meddu arni trwy’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn llawn. Hefyd, rydym yn ymrwymo o hyd i gyflawni ein rôl benodol yn cyflawni blaenoriaethau cenedlaethol allweddol, gan gynnwys Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, Cynllun 10 mlynedd y Gymraeg mewn Addysg, Cymraeg 2050, a gweithredu Cwricwlwm i Gymru.

Ac yntau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, mae’n rhaid i CGA ddangos ei fod yn gweithredu er budd y cyhoedd ac yn diogelu dysgwyr a phobl ifanc. Gwnawn hyn trwy gyflawni ein swyddogaethau statudol yn effeithiol. Hefyd, mae’n hanfodol bod ein gwaith yn weladwy fel bod hyder a ffydd yn yr hyn rydym ni’n ei wneud. Felly, mae’r Cynllun Strategol hwn yn gosod pwyslais cryf ar gyfathrebu ac ymgysylltu’n effeithiol â’n cofrestreion, y cyhoedd a’n rhanddeiliaid.

Fodd bynnag, mae rhai bylchau yn swyddogaethau statudol CGA o hyd, er enghraifft yn gysylltiedig â sefydlu cymwysterau gofynnol ar gyfer pob categori cofrestru, achrediad proffesiynol cymwysterau o’r fath, a gofal am safonau proffesiynol. Byddwn yn parhau i dynnu sylw’r llywodraeth ac eraill at yr anghysondebau hyn gyda’r nod o gryfhau’r ddeddfwriaeth sydd wrth wraidd CGA. Bydd hyn yn cefnogi CGA i gynnal safonau’n llawn ymhlith ymarferwyr addysg, a diogelu dysgwyr, pobl ifanc a’r cyhoedd, fel y cafodd ei sefydlu i wneud.

Rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus, a byddwn yn adolygu ein prosesau, gweithdrefnau, a’n technolegau yn systematig, i sicrhau bod cofrestreion a rhanddeiliaid yn cael gwasanaeth o ansawdd uchel. Ar yr un pryd, byddwn yn gweithredu mewn ffordd mor gost effeithiol â phosibl, gan sicrhau bod ein ffioedd cofrestru ymhlith yr isaf o blith unrhyw broffesiwn rheoledig yn y DU, ac yn fyd-eang hefyd.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyflwyno’r Cynllun Strategol hwn.

Eithne Hughes, Cadeirydd | Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr

Ein rôl a’n cylch gwaith

Gweledigaeth

Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru.

Diben

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn nodi ein nodau a’n swyddogaethau yn ffurfiol.

Ein nodau

  • Cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru.
  • Cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon ac eraill sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.
  • Diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid a’r cyhoedd, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Ein swyddogaethau

  • Sefydlu a chynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg.
  • Cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
  • Ymchwilio i honiadau a all fwrw amheuaeth am briodoldeb ymarferydd cofrestredig i ymarfer, a gwrando ar yr honiadau hyn.
  • Achredu a monitro rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
  • Darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill.
  • Monitro sefydlu a gwrando ar apeliadau sefydlu.
  • Hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg.
  • Ymgymryd â gwaith penodol wedi’i ariannu gan grant, ar wahoddiad Llywodraeth Cymru, mewn meysydd sy’n berthnasol i’n cylch gwaith ac sy’n cyd-fynd â’n hymrwymiad i wella safonau a deilliannau addysgol.

Y ffordd rydym ni’n gweithio

Mae ein diwylliant, ein galluoedd a’n seilwaith yn llunio sut rydym ni’n mynd ati i gyflawni’n rôl fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ac fel cyflogwr.

Ein gwerthoedd

Tegwch

Rydym yn gweithredu’n deg a gydag uniondeb i gynnal safonau a hybu proffesiynoldeb.

Cefnogaeth

Rydym yn grymuso’r gweithlu addysg i gynnal safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer, a bod yn unigolion sy’n hunanreoleiddio ac yn cynnal uniondeb eu proffesiwn.

Rhagoriaeth

Rydym yn anelu at ragoriaeth ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gofrestreion, rhanddeiliaid, dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd.

Cydweithredu

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r gweithlu addysg a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a hybu rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu.

Annibyniaeth

Rydym yn annibynnol, ac yn rheoleiddio mewn modd diduedd ac wedi’i seilio ar dystiolaeth.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Yn ganolog i’n gwaith y mae ymrwymiad dwfn i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn esbonio sut byddwn yn gweithio i annog newid cadarnhaol, o fewn ein sefydliad ac ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru. Mae pum amcan strategol yn ei lywio:

  1. Meithrin tîm CGA amrywiol a chynhwysol
  2. Monitro’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a nodi cyfleoedd i’w leihau
  3. Gweithle cynhwysol lle dethlir amrywiaeth
  4. Cyflwyno gwasanaethau hygyrch ar gyfer cofrestreion a rhanddeiliaid
  5. Helpu datblygu gweithlu addysg sy’n cynrychioli’r boblogaeth amrywiol yng Nghymru

Wrth wraidd ein hamcanion cydraddoldeb y mae cynllun gweithredu uchelgeisiol sy’n cynnwys mentrau o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, Cynllun 10 mlynedd y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg (yr ydym eisoes yn bartner neu’n arweinydd allweddol ynddo), a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru.

Y Gymraeg

Fel sefydliad dwyieithog balch, rydym yn ymrwymo i hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg. Rydym yn cynnig ein holl wasanaethau yn Gymraeg a Saesneg, gan sicrhau bod pawb yn gallu ymgysylltu â ni yn eu dewis iaith. Trwy weithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg, rydym nid yn unig yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio’n llawn â Safonau’r Gymraeg, ond rydym hefyd yn ceisio ymgorffori arfer gorau o fannau eraill, gan sicrhau bod dwyieithrwydd yn gonglfaen i’n hunaniaeth sefydliadol.

Yr amgylchedd

Rydym yn ymroi i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a chofleidio arferion cynaliadwy ym mhopeth a wnawn. Mae ein datganiad ar Adran 6 Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau yn amlinellu’r camau y byddwn yn eu cymryd i helpu cynnal a gwella bioamrywiaeth, gan sicrhau bod ein gwaith yn ategu nod byd iachach, mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cynaliadwyedd ariannol    

Fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol a ariennir gan ffioedd cofrestru, mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu o fewn ein modd ac yn defnyddio ein hadnoddau yn effeithlon. Byddwn yn parhau i ymdrechu i gadw ffioedd mor isel â phosibl, gan ddarparu’r lefel gwasanaeth uchaf wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol. Fel rheoleiddwyr eraill, mae’n rhaid i ni gynnal arian digonol wrth gefn i gynnig sefydlogrwydd a sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu hamddiffyn rhag risgiau a all godi o ddigwyddiadau annisgwyl.

Rydym ni’n arwain gweithgareddau penodol ar ran Llywodraeth Cymru os ystyrir mai ni yw’r corff mwyaf priodol i wneud gwaith o’r fath yng Nghymru. Mewn achosion o’r fath, mae Llywodraeth Cymru’n talu ein costau trwy gyllid grant, gan ein galluogi i gyfrannu’n fwy effeithiol fyth at y tirlun addysg yng Nghymru. Mae’r dull hwn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar feysydd sy’n cyd-fynd â’n cylch gwaith a’n hymrwymiad i wella safonau a deilliannau addysgol, gan barhau i sicrhau gwerth i’n cofrestreion.

Ein pobl

Un o gryfderau allweddol CGA yw’r bobl ymroddedig sy’n gweithio i wireddu ein gweledigaeth. Mae ein tîm o fwy na 55 o weithwyr, dan arweiniad ein Prif Weithredwr, yn cydweithio i sicrhau bod ein cyfrifoldebau craidd yn cael eu cyflawni’n effeithiol.

Mae ein Cyngor yn cynnwys 14 aelod sy’n sefydlu cyfeiriad strategol CGA ac maent yn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau llywodraethu uchaf. Penodir pob aelod am gyfnod pedair blynedd ac, ar y cyd, mae gan ein Cyngor gyfoeth o brofiad a gwybodaeth, yn cwmpasu ein grwpiau cofrestreion. Penodir saith aelod yn uniongyrchol trwy system penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a phenodir saith yn sgil cael eu henwebu gan amrywiaeth o randdeiliaid.

Hefyd, rydym yn cynnal ac yn cefnogi:

  • grŵp o fwy na 50 o aelodau panel priodoldeb i ymarfer
  • Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) sy’n cynnwys 14 aelod
  • grŵp o fwy na 45 o aseswyr y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Sut byddwn ni’n monitro cynnydd

Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd yn erbyn amcanion a deilliannau’r cynllun hwn mewn pedwar adolygiad chwarterol, ac yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, a osodir gerbron y Senedd yn flynyddol a’u harchwilio gan Archwilio Cymru. Byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb ac Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg, yn disgrifio sut rydym yn cydymffurfio â’r meysydd allweddol hyn ac yn amlinellu ein cynnydd ynddynt. Bydd adroddiad blynyddol ar ein gwaith priodoldeb i ymarfer yn cael ei gyhoeddi hefyd, yn disgrifio sut rydym wedi delio â materion a gyfeiriwyd atom a darparu data am y mathau o achosion rydym yn delio â nhw.

Amcanion allweddol ar gyfer 2025-28

Mae ein hamcanion yn amlinellu sut rydym ni’n anelu at wireddu ein gweledigaeth yn ystod cyfnod y cynllun hwn. Bydd y rhain yn cyfrannu at gamau gweithredu mesuradwy, penodol a osodir fel rhan o’n proses cynllunio gweithredol flynyddol.

Amcan 1

Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, sy’n gweithio er budd y cyhoedd ac yn meithrin hyder yn y gweithlu addysg.

  1. Cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg sy’n gywir ac yn hygyrch.
  2. Gweithredu gweithdrefnau rheoliadol trylwyr, teg, a thryloyw sy’n sicrhau mai dim ond y rheiny sy’n cael eu hystyried yn briodol i ymarfer all wneud hynny.
  3. Llunio ymarfer cofrestreion trwy hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad, proffesiynoldeb ac uniondeb.
  4. Achredu a sicrhau ansawdd rhaglenni a darpariaeth addysg yng Nghymru.
  5. Sicrhau bod gwaith CGA a gwerth rheoleiddio proffesiynol yn weladwy i gofrestreion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd drwy gyfathrebu effeithiol.

Amcan 2

Cefnogi proffesiynoldeb a dysgu, a hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg.

  1. Darparu cyfres o ganllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol, wedi ffocysu ar gefnogi ein cofrestreion i gynnal egwyddorion allweddol y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
  2. Hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru.
  3. Arwain a chefnogi mentrau i hyrwyddo ac annog dysgu proffesiynol effeithiol i gofrestreion.
  4. Arwain a chefnogi mentrau i hyrwyddo ymchwil addysg a lledaenu arfer gorau i helpu llywio polisi a chodi safonau.

Amcan 3

Llywio, llunio, a dylanwadu ar bolisi addysgol a mynd ati i wella rheoleiddio’r gweithlu addysg yng Nghymru.

  1. Sicrhau bod y ddeddfwriaeth sydd wrth wraidd ein swyddogaethau rheoleiddio yn ddigon cadarn i’n galluogi i gynnal proffesiynoldeb, a gwella safonau o fewn y gweithlu addysg, ym mudd y cyhoedd.
  2. Darparu cyngor, ymchwil, a dadansoddi annibynnol gyda’r nod o wella safonau, a llywio a dylanwadu ar ddatblygu a chyflwyno polisi addysg yng Nghymru.
  3. Cydweithredu â chofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, y cyhoedd, a’n rhanddeiliaid i lywio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru, gan helpu gwella safonau.
  4. Cynnig cipolygon yn seiliedig ar dystiolaeth ar dueddiadau recriwtio a chadw yn y gweithlu addysg, gan ategu penderfyniadau strategol a chynllunio’r gweithlu yn strategol yng Nghymru.

Amcan 4

Bod yn sefydliad effeithlon, gwydn, a chynaliadwy, sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion.

  1. Rheoli adnoddau’n effeithiol ac yn gynaliadwy er mwyn bodloni anghenion presennol a’r dyfodol, gan wneud defnydd priodol o dechnoleg i yrru effeithlonrwydd a gwella’n gwasanaethau.
  2. Meddu ar brosesau cynllunio, rheoli perfformiad a monitro effeithiol, gan sicrhau eu bod yn ymgorffori arfer gorau.
  3. Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol (gan gynnwys yn gysylltiedig â’r Gymraeg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, diogelu data a chynaliadwyedd amgylcheddol), gan ymgorffori arfer gorau.
  4. Bod yn gyflogwr rhagorol sy’n hybu diwylliant cefnogol a chynhwysol lle bydd yr holl staff, y Cyngor ac aelodau Pwyllgor/panel yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu cyfrannu’n llawn.