Danielle Louise Fleming – 23 Ionawr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 21-23 Ionawr 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi eu profi yn erbyn athro ysgol, Danielle Louise Fleming.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi:
- tra ei bod wedi ei chyflogi fel Cyfarwyddwr Dysgu yn Ysgol Gyfun Maesteg, fe wnaeth Mrs Fleming, ar 4 Mai 2023, fynychu'r gweithle o dan ddylanwad alcohol, a/neu yfed alcohol tra ei bod ar eiddo'r ysgol
- ar 26 Chwefror 2024, fe gafodd Mrs Fleming euogfarn o yrru cerbyd modur, ar ôl yfed cymaint o alcohol bod y gyfran ohono ar ei hanadl, yn 108 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl, yn fwy na'r terfyn rhagnodedig, yn erbyn adran 5(1)(a) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Atal (gydag amodau) ar gofrestriad Mrs Fleming fel athro ysgol am gyfnod o 4 mis, sy'n nodi amodau ar ei chofrestriad.
Mae'r Gorchymyn yn dod i rym yn syth. Bydd yr amodau yn dod i rym pe bai Mrs Fleming yn ail-gofrestru gyda CGA.
O'r herwydd ni fydd Mrs Fleming yn gallu gweithio fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y gwaharddiad.
Mae gan Mrs Fleming yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.