Victoria Price - 9 Ionawr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ionawr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 7-9 Ionawr 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi eu profi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Victoria Price.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu lefel uwch yn Ysgol Gynradd Gymraeg Gilfach Fargoed, bod Mrs Price:
- rhwng 11 ac 12 Ionawr 2021:
- wedi poeri at Berson A
- wedi mynd ati i gnoi Person A
- wedi tynnu gwallt Person A
- wedi cicio a/neu stampio ar Berson A
- wedi cicio a/neu grafu car Person A
- heb ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru o ran COVID-19, gam iddi beidio â dilyn canllawiau pellhau cymdeithasol a/neu wedi teithio tu allan i'w hardal leol heb reswm digonol
O ganlyniad i'r ymddygiad ym mhwyntiau b a d uchod, achosodd Mrs Price anafiadau i Berson A.
- wedi cytuno i Ddatrysiad Cymunedol yr Heddlu o ran ei hymddygiad ar 11 Ionawr 2021, sy'n drosedd a gofnodwyd fel 'Ymosod/Difrod Troseddol'
- o ganlyniad ni wnaeth roi gwybod i'r pennaeth am y canlynol:
- y digwyddiad ar 11 Ionawr 2021, hyd nes i'r Pennaeth sôn amdano
- ei bod wedi cael anafiadau i'w wyneb, mewn amgylchiadau lle'r oedd hi ar fin logio mewn i wneud gwers rithiol
- ei bod hi wedi achosi niwed corfforol i Berson A, a/neu achosi niwed i Berson Aei bod yn destun ymchwiliad yr Heddlu
Canfu'r pwyllgor bod y ffeithiau yn honiadau 3a-d yn dangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mrs Price oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu ysgol. Penderfynodd hefyd na fyddai Mrs Price yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mrs Price wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 9 Ionawr 2027, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mrs Price yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.