Richard Stratton-Thomas – 4 Rhagfyr 2024
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 2, 3 a 4 Rhagfyr 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Mr Richard Stratton-Thomas.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel tiwtor llawrydd gyda INSPIRE Training (GE) Ltd, fe wnaeth Mr Stratton-Thomas, ar 25 Gorffennaf 2023, ganiatáu i Ddysgwr A aros dros nos yn ei dŷ, ac ni wnaeth adrodd pryderon am Ddysgwr A i Inspire Training nac i Wasanaethau Cymdeithasol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Stratton-Thomas fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 4 Rhagfyr 2024 a 4 Rhagfyr 2026). O'r herwydd bydd Mr Stratton-Thomas yn gallu gweithio fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, sy'n darparu gwasanaethau ar ran corff dysgu'n seiliedig ar waith (heblaw fel gwirfoddolwr) yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Stratton-Thomas yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.