Diolch am ymuno â ni! Heddiw, rydym yn edrych ymlaen at eich cyflwyno i’ch Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) – sef platfform pwerus, hwylus i’r defnyddiwr, a luniwyd i gefnogi pob cam o’ch taith broffesiynol. P’un a ydych chi’n chwilio am ofod diogel i gofnodi a myfyrio ar eich dysgu, arddangos prosiect neu ddarn o waith ymchwil, neu ddarganfod mwy am bwnc sydd o ddiddordeb i chi, mae eich PDP yma i chi. Mae eich PDP yn blatfform dwyieithog, rhad ac am ddim sydd ar gael i bob cofrestrai, ac mae yma i wneud eich ymarfer o ddydd i ddydd yn fwy hwylus a threfnus. Mae ganddo storfa ar-lein ddiderfyn ar gyfer eich tystiolaeth a’ch cyflawniadau. Mae wedi ei gysylltu â chi, nid eich cyflogaeth, ac mae’n cynnwys offer i rannu a chyflwyno eich gwaith. Yn y sesiwn hon, byddwn yn dangos sut rydych chi’n cael at eich PDP, byddwn yn archwilio ei nodweddion allweddol, a byddwn yn dangos sut y gall weithio i chi –waeth beth yw eich rôl neu’ch lleoliad. Fe ddechreuwn gyda chael mynediad i’ch PDP. Gallwch fynd at eich PDP drwy eich cyfrif FyCGA ar wefan CGA, sef cga.cymru, ac wedyn dewis y ddolen mewngofnodi FyCGA. I fewngofnodi i’ch cyfrif, bydd angen eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair arnoch chi. Os nad ydych chi’n siŵr p’un a ydych chi wedi creu cyfrif o’r blaen, mae dolen i wirio hynny ac, os ydych chi wedi anghofio’ch cyfrinair, cliciwch ar y ddolen honno ac anfonir opsiwn i ailosod cyfrinair atoch dros e-bost. Os nad yw hyn yn datrys eich problemau, cysylltwch â ni – bydd ein manylion cyswllt ar gael ar ddiwedd y cyflwyniad. Ar ôl i chi fewngofnodi, bydd nifer o opsiynau ar gael i chi. Cofnod ymarferydd cofrestredig, yw’r holl wybodaeth y mae CGA yn ei dal amdanoch, er enghraifft eich manylion cyswllt, eich cymwysterau, eich cyflogaeth a mwy. Rydym ni’n eich annog i wirio’r wybodaeth hon o bryd i’w gilydd i sicrhau ei bod yn gyfredol. Mae Addysgwyr Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a ddatblygwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn cynnwys nifer o wasanaethau sy'n dod â chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a swyddi yn sector addysg Cymru ynghyd mewn un lleoliad hawdd. Y porthol swyddi yw'r mwyaf ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, ac mae'n aml yn cynnwys mwy o swyddi gwag nag unrhyw ddarparwyr eraill, gan roi mynediad i chi i'r cyfleoedd gorau ar gael. Peidiwch â cholli allan - crëwch eich proffil nawr i gael hysbysiadau wedi eu teilwra ar gyfer swyddi/lleoliadau penodol, a dewch o hyd i'ch rôl ddelfrydol. Nawr, fe ddefnyddiwn ni’r ddolen i fynd i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol. Dyma ddangosfwrdd y PDP. Mae wedi’i bersonoli ar gyfer eich profiad, ac mae nodweddion amrywiol y PDP ar gael o’r dudalen hon. Mae dolenni i ganllawiau sy’n dangos i chi sut i ddefnyddio’r PDP ar y deilsen ‘dechrau arni’ a’r deilsen ‘templedi dysgu proffesiynol’, adnoddau ar gyfer myfyrio ar eich dysgu proffesiynol yn nhempled ‘profiad proffesiynol’, a theils y gweithlyfr safonau proffesiynol, eich llyfrgell ymchwil yn EBSCO, a mwy. Fe awn ni drwy’r cyfan o’r rhain yn y weminar hon, ond fe ddechreuwn ni gyda theilsen ‘lanlwytho ffeil’. Does dim terfyn ar nifer y ffeiliau y gallwch eu lanlwytho i’r PDP, dim terfyn ar faint y ffeiliau y gallwch eu hychwanegu, ac mae’n derbyn amrywiaeth eang o fformatau o bob ffeil Office neu Word, PDF, delweddau, sain, fideo a mwy. Mae’r PDP yn cadw’r ffeiliau hyn yn eu fformat gwreiddiol, felly maent ar gael i chi eu lawrlwytho pryd bynnag a ble bynnag y bydd eu hangen arnoch chi. Dyma sut mae’r opsiwn ‘lanlwytho ffeil’ yn gweithio. Dewiswch y deilsen a chewch opsiwn i lanlwytho un ffeil neu fwy. Dewiswn yr eitemau rydym ni am eu lanlwytho trwy file explorer, gan gynnwys dogfen Word, PDF, a delwedd. I’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffeiliau, rydym ni’n argymell eich bod yn rhoi enw cofiadwy arnynt a gallwch ychwanegu tag at y ffeiliau i’ch helpu eu grwpio ac i ddod o hyd iddynt yn haws. Ar ôl i chi lanlwytho eich ffeiliau, fe ddewch o hyd iddynt yn eich storfa asedau, ble gellir eu cyrchu’n rhwydd o’r deilsen gyda’ch enw arni ar y dangosfwrdd. Yma, gallwch weld beth rydych chi wedi’i greu a’i lanlwytho a chael cip ar ba fath o ffeil ydyw. Mae nifer o opsiynau i sortio’r rhestr, fel y dyddiad creu, neu yn nhrefn yr wyddor. Os ydych chi’n cofio enw’r ffeil, gallwch ddefnyddio’r opsiwn chwilio i ddod o hyd iddi, ac mae’r opsiwn chwilio manwl ar gael i’ch helpu chi hefyd. Ydych chi’n cofio pan ychwanegon ni dag at ein ffeiliau wrth eu lanlwytho yn gynharach? Fe chwiliwn ni yn ôl y tag hwnnw, a gallwch weld bod y PDP yn dychwelyd y ffeiliau rydym ni newydd eu lanlwytho, a ffeiliau eraill sydd â’r tag hwnnw. Bydd dewis botwm ‘i’ ar ochr y sgrin yn agor bar ochr sy’n dweud popeth wrthych am y ffeil honno – os bydd angen i chi ychwanegu tagiau pellach, gallwch wneud hynny yma. Gadewch i ni glicio ar un o’n ffeiliau nawr, fel y gallwn weld yr opsiynau sydd ar gael i ni. Fel y gwelwch chi, mae opsiwn i ni ddarllen y ddogfen yn y porwr, neu gallwn lawrlwytho copi i’n dyfais bresennol. Hefyd, mae nifer o opsiynau ar gael trwy’r botwm ‘Rydw i am’. Fe awn ni drwy’r cyfan o’r rheiny nawr. Gallwch ddewis ffeiliau’n ffefrynnau – sef eitemau rydych chi am ddod o hyd iddyn nhw’n aml ac yn gyflym. Mae hyn yn eu gosod ar y tab ffefrynnau yn y storfa asedau ac ar gael ar unwaith ar eich dangosfwrdd. Hefyd, mae opsiwn gennych i rannu’ch ffeiliau’n uniongyrchol o’ch PDP fel y gall pobl eraill eu gweld. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol os oes angen i chi gyflwyno tystysgrif cwrs i’ch cyflogwr, neu os oes gennych adnodd da rydych am ei rannu gyda’ch cymheiriaid. Pan fyddwch yn dewis opsiwn rhannau, bydd ychydig o ddewisiadau ar gael i chi. Os oes gan yr unigolyn gyfrif PDP hefyd, gallwch ddefnyddio hwnnw, ond y llwybr hawsaf o lawer yw rhannu gyda’r we. Mae hyn yn creu dolen y gallwch ei hanfon, sy’n galluogi’r derbynnydd i weld, lawrlwytho ac, o bosibl, gadael sylw ar y ffeil honno. Byddwn yn gludo’r ddolen honno yn y gofod sgwrsio nawr. Fe welwch chi fod cyfle ychwanegol i roi tag ar y ffeil o’r ddewislen ‘Rydw i am’. Yr opsiwn olaf yw mapio’r ffeil hon i’ch safonau proffesiynol. Os ydych chi’n chwilio am ffordd o ystyried eich profiadau gyda’ch safonau proffesiynol, daw’r PDP gydag offeryn cysylltiedig i helpu gyda hynny. Os dewiswch y botwm mapio, bydd bar ochr yn ymddangos gyda holl opsiynau’r safonau i chi. Os dewiswch chi’r set o safonau yr hoffech weithio chi gyda nhw, bydd hyn yn agor yr holl safonau, yna’r elfennau o fewn y safon honno. Dewiswch yr elfen yr hoffech fapio iddi. Gallwch fapio’r ffeil i unrhyw nifer o safonau, dydych chi ddim yn gaeth i un set! Pan fyddwch chi wedi dewis yr elfennau rydych chi am fapio iddynt, dewiswch y botwm nesaf sy’n mynd â chi i offeryn hunanasesu dewisol. Gallwch ddefnyddio hwn i fesur eich hyder eich hun gyda’r safon benodol honno gyda’r profiad hwn. Hefyd, mae gennym adnodd sy’n dwyn eich holl brofiadau wedi’u mapio ynghyd mewn un lle. Dangoswn ni hwnnw i chi mewn munud. Pan fyddwch chi wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio’r llithrydd, dewiswch nesaf, sy’n mynd â chi i dudalen cyfiawnhad dewisol, lle gallwch chi wneud nodiadau. Pan fyddwch chi wedi gorffen, cliciwch ar arbed. Gadewch i ni nawr ddychwelyd i’r dangosfwrdd. Ydych chi’n cofio’r ffeil wnaethon ni’n ffefryn? Gallwn ei gweld yma sr y deilsen ffefrynnau, lle mae’n hawdd cael ati’n syth o’ch dangosfwrdd pan fyddwch chi’n mewngofnodi. Hefyd ar eich dangosfwrdd y mae teilsen gweithlyfr safonau proffesiynol. Mae popeth rydych chi’n ei fapio i unrhyw rai o’r safonau proffesiynol yn cael ei gynnwys yma mewn un lleoliad defnyddiol. Gadewch i ni gael golwg arno. Fe agorwn ni un o’r gweithlyfrau safonau wnaethon ni fapio iddo’n gynt. Ar y dudalen flaen, mae gennych ddiagram pry cop sy’n cydgasglu pob eitem y gwnaethoch ei mapio i bob un o’r elfennau ac, oddi tano, cyfanswm treigl nifer pob un o’r elfennau rydych chi wedi mapio iddynt. Ar bob tudalen ddilynol, gallwch weld yr holl ffeiliau sydd wedi’u mapio, wedi’u dadansoddi yn ôl safon yna yn ôl elfen. Byddwch wedi sylwi ar y botwm ‘Rydw i am’ ar y dudalen – gallwch rannu’r dudalen hon. Felly os ydych chi’n chwilio am ddull o gychwyn sgwrs gyda’ch rheolwr am y safonau, dyma le gwych i ddechrau! Fel y soniom ar ddechrau’r weminar, nid dim ond lle i arbed eich profiadau yw’r PDP. Rydym am roi’r gallu i chi fyfyrio ar eich profiadau, hefyd. O’r dangosfwrdd, bydd opsiwn gennych i greu templed profiad proffesiynol. Mae’r templed ailddef nyddiadwy hwn yn dilyn cylch ymarfer myfyriol, gan ofyn: Beth wnaethoch chi? Pam wnaethoch chi hynny? Beth nesaf? Mae’r blychau testun ar y templed yn ehangu’n awtomatig ac mae ganddynt yr holl offer golygu y byddech chi’n eu disgwyl. Gallwch fapio’r rhain i’r safonau proffesiynol hefyd, a gallwch ddefnyddio’r offeryn ar y gwaelod i ychwanegu unrhyw dystiolaeth neu ffeiliau ategol sy’n berthnasol, yn eich barn chi. Efallai y byddwch chi am gwblhau hyn yn dilyn profiad neu hyfforddiant, ac wedyn dychwelyd maes o law i adolygu’r effaith ar eich ymarfer. Ac fel gweithlyfrau’r safonau, gallwch rannu’r templedi hyn. Ond nid dyna’r unig dempled sydd ar gael i chi fanteisio arno. Os dychwelwn ni i’r dangosfwrdd, fe welwn ni deilsen ‘templedi dysgu proffesiynol’. Yn yr adran hon, mae llu o dempledi gwag wedi’u cynllunio ymlaen llaw at ddefnydd penodol ac at ddefnydd cyffredinol. Yn gyntaf, ar frig y dudalen mae dolen i’n canllawiau, sy’n mynd trwy bopeth rydym ni’n ei drafod heddiw, cam wrth gam. Yn sgil hynny, mae nifer o adnoddau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau neu hyfforddiant penodol – digwyddiadau Siarad yn Broffesiynol a Dosbarthiadau Meistr CGA, ac adnoddau gwrth-hiliaeth DARPL. Ar waelod y dudalen, cewch lu o dempledi gwag at amrywiaeth o ddibenion. Gallwch ddefnyddio cymaint ag y bydd eu hangen arnoch, o greu cynllun gweithredu, i gofnodi cyfarfod. Y cyfle olaf roeddem am ei arddangos yn y weminar hon oedd eich llyfrgell ymchwil eich hun, EBSCO. Gallwch fynd ati drwy’r dangosfwrdd. Trwy EBSCO, mae gennych filoedd o erthyglau testun llawn, cyfnodolion ac e-lyfrau y gallwch fynd atynt, eu darllen a’u lawrlwytho. Defnyddiwch y teclyn chwilio i chwilio am enwau awduron, darnau o waith neu bynciau bras. Mae gan CGA glwb llyfrau misol, sef Meddwl Mawr, sy’n amlygu llyfrau y gallwch gael atynt drwy EBSCO. Gadewch i ni ddefnyddio’r diweddaraf o’r rheiny fel enghraifft. Mae teipio teitl y llyfr yn y bar chwilio yn dangos y testun llawn. Os cliciwn ni ar y llyfr, gallwn weld bod gennym opsiwn i weld testun llawn y llyfr ar ffurf PDF ar-lein, neu lawrlwytho penodau unigol i chi eu darllen wrth eich pwysau. Os ydych chi’n gweithio ar nifer o brosiectau gwahanol, gallwch arbed eich darganfyddiadau mewn ffolderi unigol ar EBSCO. O’r dangosfwrdd, crëwch ffolder newydd a gallwch nawr ychwanegu teitlau i ddychwelyd atynt maes o law. Fel y gwelwch chi, rwy’ wedi creu un ar gyfer Meddwl Mawr ac rwy’ wedi ychwanegu’r teitlau o bob mis at y ffolder hwn. Gobeithio bod hwn wedi bod yn gyflwyniad defnyddiol i’r Pasport Dysgu Proffesiynol, sydd yn un o’r adnoddau rhad ac am ddim y mae CGA yn eu darparu i’n cofrestreion. Os ydych am i ni ddod i roi cyflwyniad am ddim i’ch sefydliad, neu os yw creu adnoddau pwrpasol i’w darparu i’ch staff yn eu PDP o ddiddordeb i chi, cysylltwch â ni. Mae CGA yn gallu cynnig cyflwyniadau am ddim hefyd ar y cod ymddygiad ac ymarfer proffesiynol, defnydd cyfrifol o’r cyfryngau cymdeithasol, a mwy. Gallwch wneud cais am y rhain trwy ein gwefan. Diolch am ddod heddiw. Gobeithio y bu’r weminar hon yn ddefnyddiol a gadawn ein manylion cyswllt ar y sgrin. Bydd copi o’r weminar hon ar gael trwy ein sianel YouTube, cyn hir. Os oes gennych gwestiynau, byddem yn hapus i’w hateb nawr. Codwch eich llaw yn y gofod sgwrsio ac fe’ch gwahoddwn i droi eich microffon ymlaen. Diolch eto .